COFIO ISLWYN gan Derec Llwyd Morgan

HYSBYSEB apeliadol, yn hytrach na dim arall, yw'r golofn hon. Yn ystod yr wythnosau diwethaf bûm yn paratoi Darlith Flynyddol y Babell Lên, a chan mai yn Nyffryn Lliw y mae'r Eisteddfod eleni a bod Lliw yn cynnwys Cwm Tawe, ni allwn i, a minnau'n frodor o'r cwm, lai na pharatoi darlith ar brif lenor y fro, sef Islwyn Williams, Ystalyfera.

Efallai y carai rhai ddadlau â mi'n syth, a maentumio mai D. Gwenallt Jones o'r Alltwen biau'r teitl hwnnw. Ef, heb os nac oni bai, yw'r llenor enwocaf a godwyd yng Nghwm Tawe, a'r mwyaf. Y mae'n fardd o bwys Ewropeaidd, yn awdur nofel wir arwyddocaol, ac yr oedd yn ysgolhaig a beirniad o gryn faintioli.

Ond Islwyn Williams ydyw prif lenor y fro: ei chymdeithas hi, a'i chymdeithas hi yn unig, ydoedd ei ddefnydd crai, a'i hiaith hi yw ei iaith. Fe'i portreadodd mor wych fel y gellir dal erbyn hyn mai ar dudalennau'i lyfrau ef y mae hi'n anadlu gryfaf.

***

OND paham trafod hyn yn Y Casglwr? A yw ei lyfrau'n brin? Tri llyfr a gyhoeddodd: Cap Wil Tomos (Llyfrau'r Dryw, 1946), Storïau a Phortreadau (Gwasg Aberystwyth, 1954), a Côr Mawr Ystalyfera (dim dyddiad, ond 1954, eto gan y Dryw).

Y mae nhw'r math o lyfrau y dylid eu hadargraffu. Cynhwysant olwg gyfoethog ar fro y mae'r cymeriad a oedd iddi gynt, lai na deng mlynedd ar hugain yn ôl, wedi graddol ddiflannu. Mae'r ysgrifennu a geir ynddynt yn finiog gan adnabyddiaeth drwyadl yr awdur o natur y glöwr a'r gweithiwr tun.

Ac am yr iaith, neu'r dafodiaith yn hytrach, – wel, prin fod yr un llenor Cymraeg wedi gwneud defnydd iachach a siarpach o'i dafod erioed.

Wrth baratoi fy narlith, defnyddiais nid yn unig y llyfrau hyn, ond hefyd y sgriptiau fyrdd a luniasai Islwyn Williams ar gyfer y radio – llwyth da ohonynt rhwng 1943 a 1954. Cael copïau Xerox ohonynt ar fenthyg a wneuthum i; ac erbyn hyn, yn naturiol ddigon, gofynnodd y BBC amdanynt yn ôl. Fe gânt orwedd am sbel eto ar silffoedd y Llyfrgell Sgriptiau yng Nghaerdydd.

Y mae ynddynt ddefnydd a ddylai fod yn gyhoeddus: portreadau o bobl - "Gwraig y Glöwr" ydyw'r gorau - na welwn eu tebyg yn rhodio'r Deheubarth fyth mwy, cau'r pyllau neu beidio; atgofion o'r ardal yn ei chyfoeth diwylliannol, - hon, cofier, oedd gwlad Adelina Patti, W.D. Clee (arweinydd y Côr Mawr), Watcyn Wyn a'i gefnder Ben Davies Pant-teg, yr englynwr Gwilym ap Lleision, a'r bardd lleol Tarennydd (a ganodd gerdd i ffarwelio â Kate Roberts pan symudodd hi o Ystalyfera i Aberdâr yn 1917).

Y mae ymhlith y sgriptiau hyn hefyd ddrama radio y byddai Ben Travers yn fodlon ei harddel, "Y Ddeuddyn Hyn," drama; fel y sgyrsiau a'r portreadau eraill, sy'n brawf diwrthdro, petai'i angen, o feistrolaeth Islwyn Williams ar gyfrwng y weiarles.