CERRIG MILLTIR RHYFEDD YR ŴYL gan Huw Williams

MAE DYN yn arfer cysylltu pob math o bethau 'r eisteddfod heblaw canu ac adrodd, a'r rhyfeddod yw ei fod yn aml iawn yn gallu dyfynnu ar y cof lawer o ffeithiau yn ymwneud ag ambell Eisteddfod Genedlaethol, yn union fel y bydd ambell Sais yn medru adrodd enwau'r ceffylau hynny a enillodd y Grand National a'r Derby yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf.

Yn bersonol, nid wyf yn un o'r rhai gorau am gofio pwy a enillodd y prif wobrau mewn gwyliau cystadleuol. Ni chofiaf fawr ddim am y cystadlu ym Mhrifwyl Llanrwst ym 1951, er enghraifft, ond mae gennyf gof da am y sgwrs faith a gefais Leila Megne, y gantores enwog, ar Faes yr Eisteddfod honno, a hefyd am helynt fawr Solomon a'i biano yn un o'r cyngherddau.

Yr unig ddau beth y byddaf yn eu cysylltu ag Eisteddfod Genedlaethol 1954 yn Ystradgynlais yw'r mwd y bu'n rhaid ymlwybro trwyddo ar y Maes yn ystod tridiau olaf yr Eisteddfod, a'r helynt a achoswyd pan geisiodd is-bwyllgor cerdd yr Eisteddfod gyflwyno ambell waith cerddorfaol modern ei naws yng nghyngherddau'r wythnos.

Dau beth yn unig a erys yn fy nghof eto am Brifwyl Aberdr ym 1956; un yw'r canu gwefreiddiol hwnnw dan arweiniad Tawe Griffith yng nghysgod cofeb 'Caradog' ar Sgwr Fictoria yn ystod oriau mn y bore, a'r llall yw rhagbrawf yr unawd tenor agored yn un o gapeli'r dref, pan glywais lais cyfareddol Stuart Burrows am y tro cyntaf erioed.

***

OND ER bod y rhain i gyd yn brofiadau diddorol, go brin y gellir galw'r un ohonynt yn brofiad ysgytwol. Y ffaith amdani yw na ddigwyddodd dim y gellir ei ystyried yn 'syfrdanol' yn yr un eisteddfod ddiweddar, boed honno'n Eisteddfod Genedlaethol neu'n ŵyl bentrefol, ac y mae'n rhaid troi i ambell hen lyfr neu gylchgrawn os ydym yn awyddus i ail-fyw rhai o'r pethau gwir fawr hynny a gysylltir 'r eisteddfod.

Dyna i chi Eisteddfod Llanelwy ym 1790, fel enghraifft, sef yr Eisteddfod y dywedir mai ynddi y rhoddwyd gwobr am y tro cyntaf erioed am draethawd. Ond mae'n ymddangos mai'r gystadleuaeth canu penillion, yn hytrach na'r gystadleuaeth ysgrifennu traethawd, a gafodd y prif sylw yn Llanelwy, oherwydd fe ddywedir i honno barhau am dair awr ar ddeg, gyda gŵr lleol o'r enw John Jones yn fuddugol.

Un o brif hynodion Eisteddfod Cymrodorion Caernarfon ym 1821 oedd bod gwraig 90 oed yn cystadlu ar ganu gyda'r delyn, ond ni ddywedir p'run a ddyfarnwyd iddi'r wobr ai peidio.

'Roedd yna gystadleuaeth areithio difyfyr ar y testun 'Dedwyddwch Teuluaidd' yn Eisteddfod Tegeingl yn Newmarket (Trelawnyd), Sir y Fflint, ym mis Awst 1829, sef gŵyl y ceir peth o'i hanes yn Lleuad yr Oes, Medi 1829, ac yn rhifyn Awst 18, 1829, o'r Chester Courant. Hoffwn feddwl mai i'r cystadlaethau areithio a'r cystadlaethau darllen rhannau o'r Ysgrythur, a oedd hefyd yn bur boblogaidd yn nhridegau'r ganrif o'r blaen, y mae priodoli'r bri mawr a welwyd ar gystadlaethau adrodd yr Eisteddfod rhyw chwarter canrif yn ddiweddarach.

Eisteddfod hynod am haelioni un gŵr arbennig oedd Eisteddfod Llenelltyd ym 1834, sef cangen o Gymdeithas Cadair Morgannwg. Hysbysodd gŵr o'r enw 'D. Jones' ei fod yn rhoi can gini ac wedyn ddwy fil o bunnau, tuag at godi ysbyty ar gyfer trigolion Morgannwg a Mynwy. 'Roedd hyn yn haelioni anhygoel pan ystyrir beth oedd gwerth y bunt a maint cyflogau rhyw ganrif a hanner yn l.

Yn Eisteddfod Caerdydd ym 1834 y gwelwyd cyfansoddwr yn ennill am y tro cyntaf, pan enillodd Brinley Richards (bachgen pymtheg oed ar y pryd) y wobr gyntaf am ei amrywiadau i biano ar yr alaw 'Llwyn Onn'. Cynigiwyd gwobrau am gyfansoddi amrywiadau ar alaw osodedig hefyd, ac am yr alaw wreiddiol orau yn Eisteddfod Lerpwl ym 1834.

***

YM 1835, yn Eisteddfod Cymdeithas y Brython yng ngwesty Dowlais, rhoddwyd gwobr am ddarllen i fechgyn dan 15 oed. Credaf fod hon yn Eisteddfod bur bwysig, am mai ynddi hi y cynigiwyd gwobr am un o'r troeon cyntaf i blant.

Un o hynodion Eisteddfod Llannerch-y-medd ym 1835 oedd ymddangosiad Joseph Hughes (Blegwryd), y telynor hynod, 'gerbron torf luosog yng nghyngerdd y prynhawn. Saith a hanner oedd oedran Blegwryd ar y pryd, a llai na saith mlynedd yn ddiweddarach fe gollodd ei fywyd trwy foddi yn afon Hudson, yn dilyn taith lwyddiannus yn y Merica. A gafodd bachgen o'r un oedran Blegwryd yr anrhydedd o fod yn `brif westai' mewn unrhyw eisteddfod cyn neu ar l 1835 tybed?

'Roedd testun pur anarferol i ysgrifennu traethawd arno yn Eisteddfod Dowlais ym 1841, sef 'P'run sydd waethaf, celwyddwr ynteu lleidr?', a thestun y traethawd yn Eisteddfod Llanbedr-pont-steffan ym 1859 oedd 'Hanes Llanbed', pryd y dyfarnwyd y wobr i 'Llwyd Llangathen'. Ar l i'r buddugwr gael ei draethawd yn l, bu'n rhaid i'r pwyllgor adfeddiannur copi trwy fygwth cyfraith, er mwyn argraffu'r gwaith yn y cyfansoddiadau.

***

UN O wyliau cystadleuol hynotaf y ganrif o'r blaen oedd Eisteddfod y Rhyl ym 1863, sef gŵyl y ceir ei hanes yn llawn yn y gyfrol Eisteddfod Gadeiriol Rhyl 1863, y cyfansoddiadau buddugol . . ., wedi ei golygu gan John Prydderch Williams (Rhydderch o Fn) a'i chyhoeddi yn Y Rhyl ym 1864. Ar y pedwerydd dydd o'r ŵyl, Awst 28, am naw o'r gloch y bore, ymgynullodd miloedd o bobl i lan y mr i wylio cystadleuaeth nofio. Yr oedd y tywydd yn braf, a'r mr yn dawel. Y beirniad oedd y Parch T.C. Edwards (Carnfaldwyn) a gŵr o'r enw 'Mr Learmouth', ynghyd Rhydderch o Fn, Ysgrifennydd yr Eisteddfod, yn cadw golwg ar bethau, a hynny'n eithaf diogel mewn cwch. 'Roedd pedwar yn cystadlu, sef Morris Roberts, peintiwr o'r Rhyl; Evan Evans, Llanrwst; J. Boulton, Lerpwl; a C.R. Hambleton o Westy'r Albion, y Rhyl. Milltir oedd pellter y ras. Cymerwyd dau o'r cystadleuwyr i mewn i gwch cyn iddynt gyrraedd hanner y ffordd, ond llwyddodd y ddau arall gwblhau'r ras. Y buddugwr, a hynny o bedwar ugain o lathenni, oedd Morris Roberts, llencyn mud a byddar, a brodor o'r Rhyl!

***

CANPUNT yw'r wobr a gynigir eleni ym Mhrifwyl Dyffryn Lliw am draethawd beirniadol ar farddoniaeth Gwenallt, a chanpunt hefyd yw'r wobr am ysgrifennu nofel gyffrous i blant rhwng 11 a 13 oed. Mae'n ddiddorol felly sylwi bod can gini a hanner yn cael eu cynnig am draethawd yn Eisteddfod Rhuthun ym 1868. Y testun oedd 'The origin of the English nation', ac yr oedd rhyddid i'r cystadleuwyr ysgrifennu yn Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, neu Almaeneg!

Fe ddywedodd rhywun mai saith rhyfeddod yn unig sydd gennym yr hawl iddynt fel cenedl. Os bydd rhywun rhyw dro yn penderfynu ychwanegu at y rhestr honno, manteisiol fyddai iddo'n gyntaf ymgyfarwyddo hanes rhai o eisteddfodau'r ganrif o'r blaen!