ARWEINLYFRAU NATUR gan Raymond B.Davies
Enghreifftiau o Arweinlyfrau Llwybrau Natur Cymreig |
GWELODD y 1970au esgor ar ddosbarth newydd o gyhoeddiadau yng Nghymru – arweinlyfrau llwybrau natur.
Digon adnabyddus yw arweinlyfr sy'n dangos pethau o ddiddordeb a ellir eu gweld wrth fynd o gylch eglwys gadeiriol neu blasty. Yr un yw pwrpas arweinlyfr llwybr natur, sef tynnu sylw at nodweddion byd natur a ymddengys ar ryw lwybr arbennig, eu disgrifio a'u hegluro.
Ar wahân i wybodaeth am natur, ambell waith fe geir mewn rhai arweinlyfrau fanylion am nodweddion hynafiaethol neu hanes lleol e.e. yn yr argraffiad diwygiedig o'r South Stack Nature Trail a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gogledd Cymru (1977), ceir adran ar gylchoedd bythynnod cerrig Tŷ Mawr, ger Caergybi, gan Frances Lynch.
***
ERBYN heddiw mae dros gant o lwybrau natur gydag arweinlyfrau yng Nghymru. Cyhoeddir y rhan fwyaf ohonynt o bell ffordd gan y Comisiwn Coedwigaeth e.e. Bwlch Nant-yr-Arian Forest Trail, Rheidol Forest (1977), Foel Friog Forest Trail, Dyfi Forest (1976), Ty'n-y-Groes Forest Walk, Coed y Brenin (10970, argraffiad diweddaraf, 1978), Walks in Gwydyr Forest (1971, argraffiad diweddaraf, 1978).
Fel y disgwylid, cyhoeddir eraill gan gyrff sydd â diddordeb arbennig mewn natur e.e. Rhodfa Esgob Morgan (yn Saesneg) gan Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (1979), Sir John's Hill, Laugharne: self guiding walk gan Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gorllewin Cymru (1979), Coedydd Aber National Nature Reserve Nature Trail, gan Fwrdd Gwarchodaeth Natur Cymru (1975), St Mary's Vale Nature Trail gan Bwyllgor Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (1975), ac yn achlysurol er hynny.
Ond ymddengys rhai arweinlyfrau dan nawdd amrywiol gyrff sydd â chysylltiad llai uniongyrchol â byd natur - cyhoeddir rhai gan hosteli ieuenctid e.e. Bleddfa Forest Nature Trail gan Hostel Ieuenctid Sant Cristoffr, Llandrindod (argraffiad diwygiedig, 1974); a hefyd gan ysgolion e.e. Guide to the Nature Trail gan Gymdeithas Gadwraeth Ysgol Uwchradd y Trallwng (1974?).
Math arall o gyhoeddwr yw cynghorau e.e. Bryn Euryn Nature Trail and Guide a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Bae Colwyn (1976), Bute Park Nature Trail a gyhoeddwyd gan Adran Parciau Dinas Caerdydd (1970), Parc Gwlad Cwmdâr a gyhoeddwyd yn Saesneg gan Gyngor Dosbarth Aberdâr (1973).
Ambell waith mae diwydiant yn chwarae rhan yn y cyhoeddi e.e. Marloes Sands a gyhoeddwyd gyntaf yn 1970 gan Shell ac Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gorllewin Cymru. Mae sawl enghraifft o lwybr natur a gyhoeddwyd gan Fwrdd Canolog Cynhyrchu Trydan (Rhanbarth y Gogledd Orllewin) e.e. Cwmrheidol Nature Trail (1972), Llwybr Natur Trawsfynydd (1975), Wylfa Nature Trail (1973).
Er mai yn Saesneg yr ysgrifennwyd nifer helaeth o'r arweinlyfrau, fe geir rhai sydd yn ddwyieithog e.e. Llwybr Natur Trawsfynydd (gweler uchod), ac eraill a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth – Rhodfa Hêndai, Niwbwrch (1974, argraffiad diweddaraf, 1978), Llyn Geirionydd Forest Trail, Gwydyr Forest (1979), Shaky Bridge Forest Trail, Coed Sarnau (1979), Cwm Cadian Forest Walks, Dyfi (1979).
***
O SAFBWYNT llyfryddol, mae'r arweinlyfrau yn anodd iawn i'w trin oherwydd yn aml ni roddir manylion cyhoeddi. Anhawster pellach yw cyhoeddi ail argraffiadau, ambell waith gyda newidiadau, heb nodi eu bod yn ail argraffiadau a heb nodi'r gwahanol ddyddiadau ymddangos. Argreffir rhai arweinlyfrau yn flynyddol e.e. World's End, Llangollen gan Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gogledd Cymru (er 1974 o leiaf).
Mae'n debyg mai cynyddu mewn nifer a wna'r arweinlyfrau yn y blynyddoedd i ddod i gyfateb â'r cynnydd mewn oriau hamdden a rydd gyfle i bobl fanteisio mwy ar bleserau'r wlad.
Tuedd dyn yw colli'r arweinlyfr unwaith y mae wedi cerdded y llwybr. Gwna hyn yr arweinlyfrau neu argraffiadau arbennig ohonynt yn brin ac yn werth eu casglu.