YR ANHYGOEL GASGLIAD ~
Atgof (a gwers) gan Huw Williams

Y CHWE degau cynnar oedd hi, a minnau ar y pryd yn byw yn hen Sir y Fflint. Un diwrnod fe ofynnodd cyfaill a oeddwn wedi cyfarfod â J.J., ac wedi gweld ei gasgliad diddorol o hen lyfrau.

Un o ddau frawd - dau hen lanc yn byw gyda'i gilydd mewn tŷ bychan yn un o drefi'r Sir - oedd J.J. Yr oeddwn yn ei adnabod o ran ei weld, ond nid oeddwn erioed wedi siarad ag ef, nac ychwaith wedi meddwl am funud ei fod yn gasglwr llyfrau prin. Yn wir, y tro cyntaf y soniodd fy nghyfaill am ddiddordebau J.J. mewn hen lyfrau, credwn yn siŵr ei fod yn tynnu fy nghoes.

A bod yn onest, nid oedd J.J. erioed wedi fy nharo i fel dyn darllengar, nac ychwaith fel gŵr a ymddiddorai mewn casglu dim byd, ac wele fy nghyfaill yn awr yn ceisio fy argyhoeddi ei fod yn berchen cryn nifer o lyfrau prin a gwerthfawr!

'Roeddwn yn dal i amau'r hyn a glywais pan ddaeth fy nghyfaill ar y ffôn un noson i ddweud ei fod wedi gwneud trefniadau inni ein dau fynd draw i gartref J.J. i weld ei gasgliad honedig o lyfrau prin. Rhyw wythnos yn ddiweddarach, wrth guro yn nrws cartref diaddurn J.J., 'roeddwn yn dal i gredu rywsut fy mod wedi cael fy nhwyllo gan fy nghyfaill, ac nad oedd J.J. yn ddim mwy o lyfrbryf mewn gwirionedd nag un o'i gymdogion diddysg a di-ddiwylliant.

P'run bynnag, cefais fy ngwahodd i'r tŷ, â'm rhoi i eistedd mewn ystafell gymharol fechan, heb na llyfr na chylchgrawn, na hyd yn oed bapur newydd yn y golwg yn unman. Yn crogi o'r nenfwd uwchben y lle tân 'roedd yna bar o socs a thrôns cwta, a'r rheini yn ôl pob golwg newydd gael eu golchi, ac yn diferu ar y garreg aelwyd. Ar gadair fechan mewn un cornel o'r ystafell 'roedd yna bentwr o ddillad (sych y tro hwn), wedi cael eu pentyrru ar ei gilydd yn flêr, a'r holl lanast yn llwyddo i'm hargyhoeddi mai aelwyd oedd hon na thacluswyd mohoni yn iawn gan neb er pan fu farw mam J.J. rai blynyddoedd ynghynt.

Ar ôl siarad â J.J. a'i frawd am bob math o bynciau dan haul (ac eithrio llyfrau), am awr neu ragor, dechreuais anesmwytho, a phenderfynu gofyn yn ddigon cwrtais ym mhle 'roedd J.J. yn cadw'r llyfrau prin a gwerthfawr y clywais fy nghyfaill yn sôn amdanynt.

Cododd J.J. a cherdded allan o'r ystafell, a phan ddychwelodd ymhen rhyw dri munud 'roedd ganddo lond ei ddwylo o lyfrau. Ar ôl eu dodi'n barchus ar fwrdd y gegin aeth allan o'r ystafell eilwaith i ymofyn rhagor o lyfrau, ac yn y man fe'm gwahoddwyd i fyseddu rhyw dri dwsin neu ragor o lyfrau a ystyriai J.J. fel "yr eitemau prinnaf" yn ei gasgliad.

Ar ôl craffu ar yr wyneb-ddalennau sylwais mai llyfrau Saesneg oedd y cyfan a ddodwyd ar y bwrdd, gyda'r rheini i gyd wedi cael eu hargraffu yn ystod chwarter cyntaf yr ail ganrif ar bymtheg, ac yn ymwneud â nifer o wahanol bynciau, gan gynnwys diwinyddiaeth, seryddiaeth, amaethyddiaeth a'r gyfraith. Yr hyn a'm trawodd yn fwyaf arbennig oedd bod y llyfrau i gyd mewn cyflwr rhagorol, a'r casgliad yn un o'r rhai mwyaf anhygoel a welais erioed mewn dwylo preifat.

***

DROS y misoedd dilynol bûm draw rhyw deirgwaith neu bedair yn gweld y gweddill o gynnwys llyfrgell J.J., sef llyfrau Saesneg o'r ddeunawfed ganrif, a hefyd rai cannoedd o bapurau newydd dyddiol o flynyddoedd cynnar y ganrif o'r blaen, a'r rheini'n gopïau wedi cael eu rhwymo'n gain a chelfydd gan ryw grefftwr trafferthus o rywle. Erbyn y trydydd tro imi ymweld â J.J., llwyddais i fagu digon o blwc i ofyn iddo sut ac ymhle y llwyddodd i gael gafael ar gynifer o eitemau mor anghyffredin o lyfrau a phapurau newydd, ac atebodd yntau trwy adrodd stori y byddai'n anodd iawn i neb ei anghofio, a dyma hi.

Oherwydd cyflwr ei iechyd, ni chafodd J.J. ei alw i wasanaethu yn y lluoedd arfog yn ystod yr ail ryfel byd. Yn hytrach cafodd ddilyn ei grefft mewn ffatri arbennig ar lannau Dyfrdwy, a byw gyda'i fam weddw yn yr hen gartref. Codai o'r gwely bob bore o'r wythnos am bump o'r gloch, meddai, ac yr oedd ganddo rhyw hanner milltir o waith cerdded i lawr prif heol y dref i ddal y bws i'r ffatri, lle y dechreuai weithio bob bore am chwech o'r gloch.

Un min nos yr wythnos yn ystod blynyddoedd cynnar y rhyfel yr oedd yn arferiad gan bobl adael pentwr o 'bapur' y tu allan i'w drysau ym mhrif heol y dref fel rhan o'r "salvage drive" fondigrybwyll, a byddai lori'n dod heibio tua saith o'r gloch fore trannoeth i gasglu'r papur, a'i gludo i ganolfan arbennig yng nghyffiniau Caer.

Wrth fynd heibio'n wythnosol i'r llwythi o 'bapur' ar y ffordd i'w waith yn y bore bach, a chyn i'r sawl a oedd yn gyfrifol am gasglu'r 'salvage' ddihuno, gwelodd J.J. ambell drysor y teimlai y dylid ei achub, - ymgyrch rhyfel ai peidio, - ac fe'i cludodd i ddiogelwch ei aelwyd. Gan ei fod fel rheol ar frys mawr i ddal y bws i'w waith, a dim amser ganddo i astudio cynnwys yr un bocs yn ofalus a manwl, dim ond ar yr eitemau hynny a ddigwyddai fod ar dop y pentyrrau papur y manteisiodd J.J., felly dyn a ŵyr faint "o drysorau llenyddol y genedl", chwedl yntau, a gollwyd am byth yn sgîl yr ymgyrch casglu papur.

***

GO BRIN bod neb sy'n adnabod J.J. yn dda yn ei ystyried yn ŵr llythrennog, ac y mae'n amheus iawn â yw erioed wedi darllen o glawr i glawr yr un o'r llyfrau prin sydd yn ei feddiant. Serch hynny mae J.J. yn un o'r bobl hynny sy'n gwybod bod yna rai pethau sy'n werth eu diogelu ar gyfer yfory, ac y mae'n rhoi pethau diddorol o'r neilltu yn reddfol.

Rai blynyddoedd wedi imi adael Sir y Fflint ac ymgartrefu ym Mangor, clywais sibrwd y bydd y llyfrau hynny y llwyddodd J. J. i'w harbed o fflamau'r tân, megis, rhyw ddydd yn cael lle o anrhydedd yn un o'r llyfrgelloedd cyhoeddus. Yn ddoeth iawn fe ofalodd yr hen gyfaill yn ei fywyd mai dyna fydd y drefn.