Y FICTORIAID YN GWENU gan E.G.Millward

MAWR DDIOLCH i Bruce Griffiths am ei erthygl 'Y Gemau sydd gyda'r Gwymon' (Y Casglwr, Rhif 8). Yr oedd yn braf gweld fod y dystiolaeth a gasglodd wedi peri iddo newid ei farn ar y ganrif ddiwethaf mai 'canrif o rwtsh sych-dduwiol oedd hi'. Y gwir yw fod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyfnod eithriadol o liwgar ac amrywiol a llawer o wŷr a gwragedd y ganrif ymhlith y cymeriadau mwyaf gwreiddiol yn ein hanes.

Ochr yn ochr â bywyd yr enwadau a chrefydd sefydliadol ceid bywyd byrlymus y ffair – fel y gwyddai John Elias a laddodd Ffair Rhuddlan ag un bregeth, meddir. Ac ochr yn ochr â'r llenyddiaeth sefydliadol ceid cyfoeth o gyhoeddiadau 'poblogaidd', ansefydliadol a gwrthsefydiadol.

Diddorol yw gweld y wythïen boblogaidd hon yn rhedeg trwy ganol llenyddiaeth crefydd sefydliadol y ganrif. Gŵyr y sawl a chanddo gopi o gofiant y Bedyddiwr anfarwol hwnnw, Dafydd Efans, Ffynnon Henri (1788-1866) gan Myfyr Emlyn fod y gwaith hwn yn un o lyfrau difyrraf a digrifaf y ganrif o'r blaen. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf ym 1870. Y pedwerydd argraffiad (Seren Cymru, Caerfyrddin, 1893) sydd gen i.

Hawdd gweld pam y dywedir i'r cofiant hwn wneud ffortiwn i'r Myfyr. Yr oedd Dafydd Evans yn feistr ar y grefft o gyflwyno'r Efengyl yn iaith Sir Gâr er dirfawr ddifyrrwch a lles i'w wrandawyr. 'Cwyd dy wialen a rho fflipen iddo, Moses,' meddai Duw wrth y Proffwyd pan oedd Pharaoh yn gwrthod gollwng yr Iddewon yn rhydd o'r Aifft ac y mae'r hanes yn gwella o hyd wrth ei adrodd.

Dro arall, disgrifiodd ladd Goliath mor fyw 'fel y gwaeddodd rhyw greadur dibris a byw allan, fel yn anwirfoddol ar y llofft, "D ..., dyna fe ar lawr." Y mae'r pregethau am Jonah a Noa'n berlau o wreiddioldeb a ffraethineb. Felly hefyd bregeth yr 'athrofeydd'.

Gwnaed camgymeriad dybryd pan ofynnwyd i Dafydd Evans holi'r plant ar Ddirwest yng nghyfarfod ysgolion cymysg Llandysul. Ond rhaid gadael i'r darllenydd flasu'r ymgom hon yn ei chrynswth. Digon yw dweud i un o'r blaenoriaid Methodistaidd weld fod 'y tŷ yn mynd ar dân' a rhoddodd daw ar yr holi trwy ddweud 'Hyd man yna mae'r ysgol wedi mynd, Mr. Evans'. Gwych fyddai cael adargraffiad o'r cofiant hwn.

***

CYMERIAD unigryw arall oedd Capelulo (Tomos Williams, 1781-1855) y lluniwyd ei gofiant gan Elfyn. Ymddangosodd y gwaith hwn yn Cymru O.M. Edwards 1904 a'i adargraffu wedyn yng nghyfres Llyfrau Ab Owen 1907 ac mor ddiweddar â 1927 gan Wasg Foyles, Llundain. Cyn-filwr a gwerthwr baledi ac almanaciau oedd Capelulo ac arhosodd nes clywed 'sŵn torri ei fedd', chwedl Elfyn, cyn cael tröedigaeth. Hyd yn oed wedi hynny nid oedd yn un hawdd ei ddisgyblu. Ac yntau ar ei ffordd i'r seiat un noson daeth i'w gyfarfod ryw sant hunan foddhaus a ofynnodd iddo:

Pan aeth Capelulo i ffair Dinbych i werthu baledi bu un o brydyddion yr ardal mor annoeth â'i gyfarch â'r cwpled hwn:

Tagu Prydydd' yw enw'r bennod hon. Darllener ymlaen!

Dipyn yn barchusach ond diddorol a difyr er hynny yw atgofion gwŷr fel Andronicus (1894), Watcyn Wyn (1907) a Llew Llwyfo (a gyhoeddwyd yng nghyfres Llyfrau Ceiniog Hugh Humphreys, Caernarfon). Y mae gweithiau fel y rhain yn rhybudd i'r anystyriol beidio ag ymroi i gyffredinoli wrth ystyried cofiannau a hunangofiannau'r ganrif ddiwethaf.

***

AR DDIWEDD erthygl yn Y Traethodydd, Ionawr, 1976, dywedais fod chwaeth ddarllen y werin Gymraeg yn Oes Victoria yn fwy cymhleth nag a gredir yn gyffredin. Ond rhaid pwysleisio un ystyriaeth go bwysig. Ni ellir dechrau deall y bedwaredd ganrif ar bymtheg heb astudio'r papurau newydd a'r cyfnodolion. Anwybyddu llenyddiaeth gyfnodol y cyfnod a barodd i amryw o sylwedyddion ddweud, er enghraifft, fod prinder nofelau yn y ganrif ddiwethaf.

Ceir cannoedd o ffugchwedlau o bob math yng nghyfnodolion y ganrif. Gwelir nofelau antur a serch; nofelau crefyddol a dirwestol; nofelau diwydiannol yn trafod helyntion y gweithwyr; nofelau ditectif a rhamantau hanesyddol; cyfieithiadau o nofelau Saesneg poblogaidd; nofelau 'cartrefol' yn ymwneud â bywyd y werin a Westerns Cymraeg!

Yn Baner ac Amserau Cymru, 1871, ceir stori syfrdanol, yn cynnwys deg o benodau, dan y teitl Wil Dafydd: neu Helbulon y Nos-Garwr gan 'Celynin'. Bywyd gwyllt y ffair a helyntion caru'r nos a ddisgrifir yn y stori bicarésg hon. Mynd o ferch i ferch liw nos a wna'r arwr (neu'r gwrtharwr) a syrthio i'r cwt moch a'r afon ac yn y blaen ar y ffordd: Betsey Lewis 'a'i dawn garu ddiarhebol'; Jane Jones, Methodyn Calfinaidd 'ac nid oedd dim a allesid roddi yn ei herbyn ond caru'r nos.'

Y mae un o'i gariadon yn marw ar enedigaeth plentyn ac un arall, a hithau'n feichiog, 'yn ymgrogi a rhaff wrth gangen derwen fawr.' Caiff Wil dri mis o garchar am wrthod talu at fagu un o'i blant siawns. Ar ddiwedd y stori, wrth gwrs, fe bwysleisir ofered y bywyd hwn: 'tynned ieuenctid yr addysg briodol oddi wrth yr hanes.' Dyma ddeuoliaeth Oes Victoria.

Stori foesol, rybuddiol oedd Wil Dafydd, meddai Celynin, ond y mae'n gwbl amlwg yn cael blas aruthrol ar ddisgrifio'r bywyd garw a welir mor glir hefyd yn y baledi ffair. Pwy, tybed, oedd Celynin?

Fel y down i wybod mwy am y math yma o ysgrifennu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe ddaw'n eglurach fod corff mawr o gynnyrch 'poblogaidd' yn cystadlu'n egniol am sylw darllenwyr yn Oes Aur y Wasg Gymraeg. Ceir copi o'r faled aflednais a gyhoeddwyd yn Y Casglwr diwethaf yn y Llyfrgell Genedlaethol a chyda hi Crynodeb o Emynau Newyddion; o waith gwahanol brydyddion, fel Wil Ffril Ffralog a Deio Dwrch, a'r 'emynau' hyn eto'n aflednais ac yn gableddus. Dyma herio un o gyfryngau crefyddol mwyaf annwyl yr oes.

Oedd, yr oedd Victoriaid 'eraill' yng Nghymru hefyd a rhaid rhoi sylw digonol iddynt cyn y gellir tynnu darlun cynhwysfawr o'r ganrif.