YDIGRIFWR1811- Mwy gan Gomer Roberts

MEDDAI'R Golygydd wrthyf, mewn llythyr yn ddiweddar o berthynas i nodyn o'r eiddof yn rhifyn Nadolig 1979 o'r Casglwr ar Gampau Twm Sin Cati; "Yr oedd gan Mr Prys Morgan ddiddordeb arbennig iawn . . . yn y gyfrol honno, Y Digrifwr. Casgliad o Gampiau a Dichellion Thomas Jones o Dregaron . . . (1811). Teimlai Mr Morgan, ac y mae'n iawn, y buasai'n ddiddorol a buddiol cael cipdrem ar gynnwys y gyfrol hon, gan bwysleisio mai ynddi y cyhoeddwyd am y tro cyntaf erioed hanes y cymeriad yma a ddatblygodd yn un mor chwedlonol".

Gwasgwyd arnaf i anfon cyfraniad pellach i ddelio'n "benodol 'r gyfrol honno". Wel, prin y gellid galw Y Digrifwr yn 'gyfrol' gan mai llyfryn yn cynnwys wyth o dudalennau ydyw.

Dywed yr awdur - pwy bynnag ydoedd - fod Thomas ab Sin yn fab i ŵr bonheddig, ac iddo gael ei eni yn Llidiard y Ffynnon gerllaw Tregaron tua'r flwyddyn 1520, "a chan fod Ilygad cath yn rhan o Arfbais ei dylwyth fei galwyd yn Dwm Sin Cati. "Fe chwariodd gynifer o rampus gastiau, ac ysgelerder, fel ag yr oedd gwobr yn cael ei chynnyg am ei ddal ef". 'Roedd yr "Ustus Evans" yn byw yn y gymdogaeth, "ac yn ddiwyd hynod am ddal drwg ddynion".

Camp gyntaf Twm oedd twyllo ac ysbeilio'r Evans hwnnw. Trigai chwaer Twm ar bwys cartre'r Ustus, a rhoddwyd ei phriod "ar arswydus lw" i fradychu'i frawd-yng-nghyfraith pan ddeuai i'w dŷ ef." Cyn hir ymwelodd Twm chartre'i chwaer, a datguddiwyd iddo y IIw a wnaed gerbron yr Ustus. "A ddarfu iti addo mynd dy hunan?" "Naddo ddim". "Wel", ebe Twm, "mi a fyddaf y gennad fy hunan".

Parodd i'w frawd-yng-nghyfraith eistedd wrth y tn a mantell Twm amdano. Rhedodd yntau drwy'r tywyllwch i dŷ'r Ustus "gan amredu llais" ei frawd-yng-nghyfraith a'i hysbysu fod ei feistr am fynd Twm i garchar Aberteifi, a'i fod yn mofyn ei gt fawr a pheth arian ar gyfer y daith.

Yn ei llawenydd rhoddodd Mrs Evans gt fawr ei phriod i'r 'gwas' ynghyd phwrs yn cynnwys hanner can gini ynddo. Cafodd Twm ddihangfa felly, ynghyd dau geffyl, ct fawr newydd, a swm go dda o arian.

A wyddai T. Llewelyn J. Pritchard am Y Digrifwr? Gwyddai, y mae'n sicr, oblegid fe geir fersiwn o'r stori uchod yn The Adventures and Vagaries of Twm Shon Catti. (Gwelais hi yn argraffiad Cymraeg Eilionydd, Ystalafera, 1904). Ac o graffun fanwl, diau y ceid hyd hefyd ir castiau eraill a groniclir yn Y Digrifwr.