TAD MADAM WEN gan Tomos Roberts

ERYS WILLIAM David Owen, Rhosneigr, awdur y rhamant Madam Wen, yn ŵr bron mor lledrithiol ag arwres y rhamant ei hun. Ceir ysgrif arno yn yr atodiad i'r Bywgraffiadur Cymreig, a chyhoeddwyd ysgrif arall gan Mr R. Maldwyn Thomas yn Gwŷr Môn. Ymddangosodd ysgrif goffa hefyd yn Y Cloriannydd, Tachwedd 11, 1925. Er hyn i gyd ychydig sydd yn hysbys amdano, am ei gefndir, a'i waith llenyddol.

Ganed ef yn Nhynfranan, Bodedern, Môn yn 1874. Am, gyfnod bu'n ddisgybl athro gyda L.D. Jones (Llew Tegid) yn Ysgol y Garth, Bangor, ac yna bu'n fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor. Bu'n athro wedyn yn Lloegr. Yn ddiweddarach bu'n astudio'r gyfraith, a chafodd ei wneud yn fargyfreithiwr.

Yna er mwyn ei iechyd dychwelodd i Fôn, a chychwynnodd fusnes cyfreithiwr yn Rhosneigr a Llangefni. Ond dirywiodd ei iechyd, yn enwedig yn ystod haf 1925, a bu farw ym mis Tachwedd o'r flwyddyn honno yn un ar ddeg a deugain. Cofir ef yn bennaf am ei ramant Madam Wen, - yr orau o'i chyfnod yn ôl Syr Thomas Parry. Cyhoeddwyd hi gan Hughes a'i Fab, Wrecsam ychydig cyn ei farwolaeth.

Beth amser yn ôl derbyniodd Llyfrgell Coleg y Gogledd, Bangor ddwy ddogfen, a fu unwaith yn eiddo i W.D. Owen, yn rhodd gan y Parch Huw Llywelyn Williams, Caergybi. Nofel gyfres yw un, a dyddiadur W.D. Owen ar gyfer 1925 yw'r llall. Mae'r dogfennau hyn yn taflu goleuni newydd ar W.D. Owen, a'i ddull o gyhoeddi.

***

ELIN CADWALADR yw teitl y nofel. Torrwyd hi o bapur newydd a'i phastio ar ddalennau o bapur. Mae llawer o ôl cywiro arni, ac ymddengys fod yr awdur wedi ceisio ei haddasu ar gyfer ei chyhoeddi'n gyfrol. Ar y ddalen flaen ceir yr enw W.D. Owen, Seaforth, Rhosneigr. Ceir yr enw John E. Roberts, Cheadle Hulme, Cheshire ar yr un ddalen mewn llaw arall.

Ymddangosodd y nofel gyntaf yn Y Genedl Gymreig rhwng Mehefin 6,1913 ac Ionawr 6, 1914 dan y teitl Dychweliad y Crwydryn, neu Taro Tant a Newid Cywair. Ni cheir enw'r awdur yn y papur, ond y mae'n bur amlwg mai W.D. Owen ydyw. Nid rhamant na nofel hanesyddol yw Elin Cadwaladr ond y mae wedi ei lleoli yn yr un ardal â Madam Wen. Ceir ynddi hanes trigolion pentref a phlwyf Bryn Siriol 'yng nghantref Hirfon yn ynys Môn.' Saif pentref Bryn Siriol ar gyrion 'y Towyn Mawr.' Daeth y tywyn yn gyrchle dieithriaid o drefi Lloegr, a chodwyd treflan fechan ar eu cyfer ar y ponciau tywod. Yn union wedyn cododd pris ymenyn ym Mryn Siriol.

Pobl yn byw ac yn gweithio yn galed yw trigolion Bryn Siriol:

Chwarddant wrth weld Saeson y Towyn Mawr yn cerdded milltiroedd ar bob tywydd drwy y grug a'r rhedyn ar ôl pêl fach wen. Chwarddant yr un mor iach pan sonia'r Season am reolau iechyd ac am y berthynas rhwng gwartheg afiach a'r ddarfodedigaeth.

Cyfeiriadau amlwg yw'r rhain at blwyf Llechylched, pentrefi Bryngwran a Rhosneigr, a'r ardal o gwmpas Tywyn Trwan. Mae yma dinc dychanol hefyd. Yr oedd W.D. Owen yn aelod o glwb golff Rhosneigr, a bu'n dioddef o'r diciâu.

Ar ôl cyflwyno trigolion Bryn Siriol â'r awdur ymlaen i adrodd hanes David Charles, pregethwr ieuanc, mab gweinidog Engedi, Bryn Siriol, a'i gariad Elin Cadwaladr. Ar ddechrau'r nofel mae David Charles yn traddodi ei bregeth gyntaf yn Engedi. Yna ar ôl blwyddyn yn Rhydychen, mae'n rhoi'r gorau i bregethu, ac yn mynd i Lundain i astudio'r gyfraith. Mae'n troi yn sosialydd, ac yn cael ei ddewis yn ymgeisydd seneddol dros Newlea Marsh. Ond ar drothwy etholiad cyffredinol caiff Elin Cadwaladr ei thrawo'n wael. Mae David yn dychwelyd adref ar frys, gan roi heibio'r ymgyrch seneddol, ac yn priodi Elin Cadwaladr, a hithau'n glaf yn ei gwely. Mae Elin yn gwella, ac y mae David Charles yn dechrau pregethu yn Engedi unwaith eto.

***

YMDDANGOSODD pennod olaf 'Dychweliad y Crwydryn ...' yn Y Genedl Gymreig Ionawr 6, 1014. Yn yr un rhifyn cyhoeddodd W.D. Owen ragair ei nofel gyfres newydd, Madam Wen Arwres yr Ogof. Ymddangosodd Madam Wen ... yna yn wythnosol yn Y Genedl Gymreig hyd Orffennaf 7, 1014.

Nid oes unrhyw wahaniaeth sylfaenol rhwng y fersiwn o Madam Wen ... a ymddangosodd yn Y Genedl Gymreig a'r un a gyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab yn 1925. Twtiodd yr awdur lawer ar yr orgraff. Newidiodd ambell baragraff a phennawd, ac asiodd rai o'r penodau. Ychwanegodd baragraffau ar ddechrau a diwedd rhai o'r penodau, a newidiodd enw llong Abel Owen o Sudden Death i Certain Death. Mae mwy o ôl newid ar y rhagair nag ar y rhamant ei hun. Yn rhagair fersiwn 1925 sonnir am 'ŵr o'r fro' yn eistedd ar bonc ger ogof Madam Wen, ac yna yn cloddio yn yr ogof ac yn darganfod y guddfan danddaearol a dyddiadur Madam Wen. Ond yn fersiwn 1914 yr awdur ei hun sydd yn darganfod y guddfan.

Yn rhagair Madam Wen dywed W.D. Owen iddo gael llawer o wybodaeth am Madam Wen o'i dyddiadur. Yn yr un modd ceir llawer o wybodaeth amdano yntau yn ei ddyddiadur ar gyfer 1925. Ymddengys mai ei brif fwriad wrth gadw dyddiadur oedd cofnodi'r gwaith cyfreithiol a wnâi.

Ond ceir llu o gyfeiriadau eraill hefyd ar wahân i rai at lunio gweithredoedd ac ewyllysiau, a siwrneiau i'w swyddfa yn Llangefni. Saesneg yw iaith y dyddiadur ond ceir ynddo ambell air ac ymadrodd Cymraeg. Dengys fod W.D. Owen yn aelod o Gyfarfod Misol (MC) Môn. Yr oedd hefyd yn aelod o Gyfrinfa'r Seiri Rhyddion yn Llangefni, ac âi yno i gyfarfod bob mis. Fel y dywedais eisoes yr oedd yn aelod o glwb golff Rhosneigr, a bu'n cerdded ar ôl 'pêl fach wen' gyda'r Dr R. Alun Roberts fwy nag unwaith yn ystod haf 1925.

Rhwng lonawr a Mawrth 1925 bu'n darllen y nofel gan Galsworthy yn y gyfres The Forsyte Saga. Ym mis Gorffennaf bu'n bwrw golwg ar ysgrifau a storïau W.J. Griffith, Henllys Fawr, Aberffraw, gan gynnwys 'Eos y Pentan'. Addawodd hefyd y cai W.J. Griffith weld proflenni Madam Wen.

***

CEIR nifer o gyfeiriadau eraill at Madam Wen yn y dyddiadur hefyd. Rhwng Mai a Gorffennaf bu'n darllen y proflenni. Yng Ngorffennaf bu'n trafod y cyflwyniad a'r rhwymiad gyda'r cyhoeddwyr. Derbyniodd y copïau cyntaf ar Hydref 22, bythefnos union cyn ei farwolaeth.

Ym mis Gorffennaf dechreuodd godi tŷ newydd yn Rhosneigr, ac âi i'w weld bron bob dydd. Yn eironig iawn, fel y codai'r tŷ newydd dadfeiliai ei iechyd yntau. Ceir mwy a mwy o gyfeiriadau at gyflwr ei iechyd yn ystod Awst a Medi. Dyma a ysgrifennodd ar Fedi 30:

A lovely day and I feel rotten.

Mae'n bur debyg fod rhagor o storïau W.D. Owen ar gael mewn papurau a chylchgronau. Dywedir yn yr ysgrif goffa yn Y Cloriannydd iddo lunio llawer soned Gymraeg. Ni welais i yr un hyd yn hyn. Diddorol hefyd fyddai darganfod rhagor am gefndir hanesyddol Madam Wen, a deallaf bod Maldwyn Thomas yn gweithio ar yr agwedd hon o waith W.D. Owen ar hyn o bryd.