SYR JOHN MEWN PRINT gan Huw Walters

HANNER can mlynedd i eleni ar Ebrill 16, 1929 y bu farw Syr John Morris-Jones, bardd, beirniad ysgolhaig ac athro, - "y chwalwr a'r adeiladwr mwyaf ar ein hiaith a'n llên" yn ôl tystiolaeth Syr Thomas Parry amdano. Nid amhriodol felly fuasai crybwyll rhai o'i gyhoeddiadau yn y rhifyn hwn o'r Casglwr.

Ym 1895 ar ei benodi'n Athro yng Ngholeg y Gogledd, Bangor y dechreuodd Morris-Jones ar genhadaeth fawr ei fywyd, a'i brif amcan o hyn allan oedd ymgeleddu'r Gymraeg a chelfyddyd cerdd dafod. Astudiodd yr iaith a'r hen gelfyddyd farddonol mewn dull gwyddonol, ac ofer hollol yn ei farn ef oedd i neb ysgrifennu Cymraeg a chyfansoddi barddoniaeth heb ddysgu'r iaith ac ymgydnabod â'i llenyddiaeth.

Ffrwyth y gweithgarwch hwn oedd y ddau glasur a gyhoeddodd sef A Welsh Grammar a Cerdd Dafod, y naill ym 1913 a'r llall ym 1925. Y ddwy gyfrol hon yw ei weithiau mwyaf adnabyddus, ond yn rhyfedd iawn un o'i weithiau cynharaf yw llyfryn bychan nad oes a wnelo ddim oll i'r Gymraeg, sef A Dozen Hints to Welsh Boys on the Pronunciation of English, by W. Glynn Williams ... revised and edited by J. Morris-Jones a argraffwyd gan wasg Nixon and Jarvis ym Mangor ym 1890.

Ac eithrio Cerdd Dafod a'r Caniadau, Saesneg hefyd yw iaith y mwyafrif o'i brif weithiau megis ei ddarlith agoriadol yng Ngholeg y Gogledd ar Edward Lhuyd a ymddangosodd gyntaf yng ngholofnau'r North Wales Observer and Express ar ?g Hydref 1893, ond a argraffwyd yn bamffledyn 16 o dudalennau gan y Welsh National Press Company Ltd., yr un flwyddyn.

Y mae'n deg nodi serch hynny i gyfieithiad Cymraeg o'r ddarlith ymddangos yn Y Traethodydd yn ogystal.

Saesneg hefyd yw iaith rhagymadrodd Syr John i'w argraffiad o'r Elucidarium o Lyfr Ancr Llanddewibrefi, a argraffwyd yn gyfrol hardd gan wasg Clarendon, Rhydychen ym 1894, - cyfrol gyda llaw, sy'n gwerthu am £40 y copi erbyn hyn. Golygodd destun Llyfr yr Ancr o Fuchedd Dewi ym 1912 a argraffwyd gan yr un wasg, sef The Life of St. David and Other Tracts from Medieval Welsh.

Wrth gwrs Saesneg yw iaith y gramadeg mawr, yn ogystal â'r Welsh Orthography, sef adroddiad pwyllgor yr orgraff, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y bu Syr John yn ysgrifennydd iddo, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1893. Dyna Taliesin (Llundain, 1918), An Elementary Welsh Grammar (Rhydychen, 1921) a'r Welsh Syntax (Caerdydd, 1931) wedyn, – y cyfan yn Saesneg.

***

OND FEL y cawn weld yn y man cyfieithodd Morris-Jones rai gweithiau (ar wahân i farddoniaeth) i'r Gymraeg, a rhai ohonynt yn ddogfennau swyddogol y llywodraeth, megis Crynhodeb o Ddeddf Rheoleiddio Cloddfeydd Glo ym 1887.

Y mae stamp Syr John yn amlwg ar y cyfieithiad o 29 o dudalennau, a diau iddo gael peth anhawster wrth drosi rhai termau technegol i'r Gymraeg. Ond cynnwys y cyfieithiad rai termau a oedd eisoes ar lafar yng nglofeydd y cyfnod, ac ymddengys iddo ymgynghori â glowyr profiadol wrth drosi'r gwaith.

Termau oeddynt fodd bynnag a arferid yng nglofeydd y gogledd – o gwmpas Rhosllannerchrugog yn fwyaf arbennig, yn hytrach nag yng nglofeydd y de. Er enghraifft 'atal-bwyswr' yw gair glowyr dyffryn Aman am check-weigher, ond 'profwr-pwysau' yw dewis air y cyfieithydd. Ond ceir rhai cynigion diddorol megis 'tynfa farw' am dumb drift, 'matsen leufer' am lucifer match, 'cynhalgoed' am props, ac 'ededrod' am flywheel. Gyda llaw ei air am manholes yw ‘dynleoedd’.

***

DECHREUODD Syr John ddosbarthu'r cynganeddion flynyddoedd lawer cyn ymddangos o'i gampwaith Cerdd Dafod. Ym 1904 cyhoeddwyd Dosbarth ar y Cynghaneddion yn bamffledyn 4 tudalen, a'i argraffu gan wasg Jarvis a Foster ym Mangor. Dadansoddiad elfennol yw'r gwaith o'r gynghanedd gytsain y gynghanedd sain a'r gynghanedd lusg, ac mae'n dra thebyg taw pamffledyn a baratowyd ar gyfer myfyrwyr yw'r gwaith. Fel y gellir disgwyl anaml iawn y deuir ar draws copïau heddiw.

Ym mis Mawrth 1911 ymddangosodd y rhifyn cyntaf o gylchgrawn y mae iddo le anrhydeddus iawn yn y deffroad llenyddol yng Nghymru ar ddechrau'r ganrif hon, sef Y Beirniad a fu dan olygyddiaeth Morris-Jones hyd fis Chwefror 1920. Yn y cylchgrawn hwn clywyd lleisiau athrawon Cymraeg y Brifysgol ac enwau blaenllaw'r enwadau, a diau mai'r cyfuniad hwn a sicrhaodd ei lwyddiant.

Yn Y Beirniad y cafodd y Cymro meddylgar yr hyn a roesai Cymru Owen Edwards i'r werin, ac y mae'n bwysig cofio i nifer o'r cyfranwyr ddod dan ddylanwad y golygydd ei hun; gwŷr fel Ifor Williams, R. Williams Parry a W. J. Gruffydd a ysgrifennai ar bynciau ieithyddol a llenyddol, a diwinyddion fel Miall Edwards, Tecwyn Evans a David Adams a drafodai'r pynciau athronyddol a chrefyddol. Ac wrth gwrs bu'r cylchgrawn yn gyfrwng i'r golygydd ei hun i leisio'i farn ar bwnc iaith a gramadeg.

***

GWYDDAI Syr John am ddylanwad y wasg ac achubai bob cyfle i ddadlau ac ymryson yn gyhoeddus er mwyn egluro'i safbwynt, ac yng ngholofnau'r Goleuad, Y Geninen, Y Traethodydd a Cymru Fydd y ceir ei gyfraniadau cynharaf ar bynciau ieithyddol a gramadegol.

Ei gyfraniad cyntaf ar bwnc yr orgraff y llwyddais i ddod o hyd iddo yw ei lythyr yn Seren Cymru ar Fawrth 21, 1890 yn dwyn y teitl 'Mr Jenkin Howell a Chymdeithas Dafydd ap Gwilym'. Gellir dweud mai 'Siencyn Hŵal' oedd un o argraffwyr pwysicaf y de yn ail hanner y ganrif ddiwethaf, yn dribannwr diddan a wnaeth gyfraniad nid ansylweddol i fywyd diwylliannol Cwm Aberdâr, ond ysywaeth, bu mor ffôl â chroesi cleddyfau â Syr John Morris-Jones.

Yn ei ddiniweidrwydd ysgrifennodd yr argraffydd lith i'r Seren yn trafod camgymeriadau cyffredin ymhlith ysgrifenwyr Cymraeg, ac yn sgîl hynny ymosododd ar argymhellion Cymdeithas Dafydd ap Gwilym ynglŷn â'r orgraff, gan gyfeirio at Syr John fel "crwt di-farf"! Druan ohono, rhoes Morris-Jones grasfa yn iawn iddo am ei ymhongarwch.

Ond yr oedd bechgyn y Dafydd bellach yn cael dylanwad a phan fynegodd Edward Foulkes ei ofid mewn llith o'i eiddo 'Cymraeg Rhydychain' yn Y Geninen ym 1890 cythruddwyd Syr John unwaith eto. Ymddangosodd ei ateb yn rhifyn yr Hydref o'r un cylchgrawn, gan egluro'i safbwynt yn hollol glir. "Gellir dweud", meddai "mai gwrthryfel yw'r mudiad hwn yn erbyn Puwiaeth . . . Nid wyf fi'n bryderus am a ddaw – ni frysia'r hwn a gredo. Ac y mae fy nghred i'n gadarn ein bod ar lwybr y gwir, a'm ffydd na wnêl Cymru gam â'i meibion fu'n ymhyfrydu yn ei geiriau mewn estron dir, ac yno'n dysgu ei charu."

***

YN Y MAN daeth Cymru gyfan i wybod am yr 'Ysgol Jonesaidd' neu 'Ysgol Bangor', ac aeth yn ddadl ffyrnig rhwng Morris-Jones a dilynwyr Owen-Pughe. Ym 1911 cyhoeddodd O. Eilian Owen, teiliwr o Lerpwl, gyfrol fechan o ramadeg yn dwyn y teitl Gomerydd y Plant, ac fe'i hadolygwyd gan yr Athro yn Y Beirniad.

'Roedd teitl y gwaith yn ddigon i'w gythruddo heb sôn am y cynnwys, gan i'r Athro chwalu damcaniaethau "crach ieithegwyr fel Owen-Pughe ac haneswyr pen a phastwn fel Theophilus Evans" fod y Cymry'n disgyn o linach Gomer yn ei ysgrif 'Gomer ap Iapheth' yn Y Geninen mor gynnar i 1890. Ac 'roedd gan y teiliwr hwn yr wyneb yn awr i ail godi'r ffwlbri eto, a hynny bron bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach! Wel os do fe, aeth Syr John yn wyllt gacwn a bu'r teiliwr yn elyn anghymodlon iddo fyth wedyn.

Flwyddyn yn ddiweddarach ysgrifennodd Eilian Owen gyfres o bedair ysgrif ar 'Orgraff yr Ysgol Jonesaidd' i'r Geninen gan ymostwng i ymosod yn fileinig a phersonol ar arweinydd y gwrthryfel. Ond gallai Syr John yntau ymosod, ac mewn erthygl ddeifiol o'i eiddo yn dwyn y teitl 'Sartor Resartus' yn Y Beirniad rhoes goten i'w chofio i'r "corgi brathog", gan ychwanegu mai "anwybodaeth yw ei goll mwyaf ac eithrio'i insolence".

***

BU IOLO Morganwg dan yr ordd yn ogystal, a phan ymddangosodd pum ysgrif o waith Syr John - `Gorsedd Beirdd Ynys Prydain' yn y Cymru ym 1893 bu helynt mawr arall. Yn yr ysgrifau hyn ymosododd yr Athro ar y rheini a gredai honiadau Iolo mai'r Orsedd oedd gwir etifedd y traddodiad derwyddol, a dangosodd nad oedd seiliau hanesyddol i'w bodolaeth o gwbl.

Bu cynnwrf a dadlau mawr am fisoedd lawer ym mhapurau Cymru, a Morien y gŵr hynod hwnnw o Bontypridd ac un o ohebwyr y Western Mail yn brif amddiffynnydd y traddodiad derwyddol. Bu gan hyd yn oed brif bapurau Lloegr ddiddordeb yn yr helynt, a chafwyd 'Proffessor's Raid on the Gorsedd' yn bennawd ar adroddiad a gyhoeddwyd yn y New York Times.

Ysgarmes fawr arall oedd helynt y ffyrdd ym Mangor ym 1906. Bu llythyru brwd yn y wasg Gymraeg y flwyddyn honno ynglŷn â'r ffurfiau Ffordd Deiniol a Ffordd Gwynedd fel enwau ar ddwy o strydoedd y dref. Pleidiai John Morris-Jones y ffurfiau cywir Ffordd Ddeiniol a Ffordd Wynedd gan gyhoeddi ei safbwynt mewn cyfres o lythyrau yn Y Genedl Gymreig a Seren Gomer. Adargraffwyd dau o'r llythyrau hyn yn bamffledi bychain, 12 tudalen yr un gan wasg Y Genedl yng Nghaernarfon yr un flwyddyn, ac y mae'r ddau'n brin eithriadol erbyn heddiw.

Aeth y ddadl hon eto dros ben llestri a chyfrannwyd iddi gan wŷr fel Edward Anwyl, J.T. Job, Owen Owen, Thomas Edwards, W.J. Gruffydd a Spinther James, a'r rhan fwyaf ohonynt yn rhyfedd iawn, yn anghytuno â'r Athro.

Ond fel y gellid disgwyl Syr John a orfu'r tro hwn ac yn Y Genedl ar Fawrth 13, 1906 ceir adroddiad am gyfarfod arbennig o Gyngor Dinesig Bangor a alwyd i drafod cynnig y Cynghorydd T. J. Williams "fod y penderfyniadau blaenorol yng nglyn ag enwi Ffordd Gwynedd a Ffordd Deiniol yn cael eu tynnu'n ôl, a bod Ffordd Wynedd a Ffordd Ddeiniol yn cael eu rhoddi yn eu lle".

Manteisiai Syr John ar bob cyfle i ledaenu ei neges, a hynny ym mhapurau'r de yn ogystal â'r gogledd. Ymosododd ar y ffurf anghymreig Llungwyn ar ddydd Llun y Sulgwyn yn Y Cymro ar Fai: 24, 1900, a chafwyd trafodaeth ganddo ar ddyblu n ac r yn Y Brython ar Fedi 15 a Hydref 20 1921.

Yng ngholofnau'r Goleuad yr ymladdwyd brwydr fawr Iechydwriaeth ac iachawdwriaeth yn ystod haf 1928 rhwng yr Athro ac Ifor Williams. Dadl oedd hon a sbardunwyd yn gyntaf gan y cyfnewidiadau a wnaed i rai emynau yn Llyfr Emynau a Thonnau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd ym 1927.

Un o golofnau poblogaidd Y Darian a gyhoeddwyd yn Aberdâr, oedd 'Yr Ysgol Gymraeg' a gedwid gan 'Sam yr Halier'. Diau i'r golofn fod o fudd i loywi Cymraeg ysgrifenedig llawer o Gymry'r de, ond cythruddwyd Syr John gan ymdriniaeth yr Halier ar ffurfiau'r rhagenwau personol dibynnol, a mynegodd ei farn yn gwbl groyw yng ngholofnau'r papur ym misoedd Chwefror a Mawrth 1920.

Ym 1910 argraffodd Gwenogvryn Evans ei Facsimile and Text of the Book of Taliesin, ac ymddangosodd ei Poems from the Book of Taliesin bum mlynedd yn ddiweddarach. Adolygwyd y ddau waith gan Morris-Jones yn The Times Literary Supplement ar Awst 17, 1916.

Canmolodd ddiwyg y cyfrolau a'u hargraffwaith a rhoes eirda am fanylder y golygu, ond anghytunodd yn chwyrn â'r golygydd ynglŷn â lleoliad yr Hen Ogledd a'i gais at ddyddio Llyfr Taliesin. Awgrymodd ymhellach iddo anwybyddu astudiaethau ysgolheigaidd o gynnwys Llyfr Taliesin. Yn y man datblygodd yr adolygiad hwn yn drafodaeth gynhwysfawr ar gyfieithiadau a nodiadau ar rai o'r cerddi i Urien fab Owain, a thyfodd yn gyfrol sylweddol o 290 o dudalennau a gyhoeddwyd dan y teitl Taliesin ym 1918.

Chwe mlynedd yn ddiweddarach cyhoeddodd Gwenogvryn Evans ei ateb yn Taliesin or the Critic Criticised, sy'n dangos y gallai yntau hefyd fod mor grafog ei eiriau a'r Athro.

***

NID IAITH, gramadeg nac ysgolheictod oedd testunau'r ymrafael bob tro fodd bynnag. Yr oedd Puleston Jones, un o gyfeillion mawr yr Athro, yn heddychwr digymrodedd fel y gwyddys, ac fe'i cythruddwyd yntau ym mis Rhagfyr 1918 pan ymddangosodd ymosodiadau Syr John ar heddychwr a gwrthwynebwr cydwybodol mewn llythyr o'i eiddo, 'Buddugoliaeth Ffydd' yn Y Brython.

Wn i ddim a fu Syr John yn annerch cyfarfodydd ricriwtio fel ei gyfaill y Parchedig John Williams, Brynsiencyn, ai peidio, ond ysgrifennodd lawer yn cyfiawnhau'r Rhyfel Mawr. Crybwyllwyd eisoes fod galw mawr arno i gyfieithu rhai o ddogfennau'r llywdoraeth i'r Gymraeg a chyhoeddwyd ei gyfieithiad o un o areithiau ricriwtio Lloyd George yn bamffledyn 16 o dudalennau dan y teitl Eich Gwlad a'ch Cais, gan Eyre a Spotiswoode ym 1914.

Yn fwy na hynny aeth Syr John ati ar ei liwt ei hun i wneud ei ran dros yr Ymerodraeth drwy gyhoeddi propaganda ynglŷn â'r Rhyfel, ac mae'r taflenni hyn yn eithriadol brin erbyn heddiw.(Gyda llaw urddwyd Morris-Jones yn farchog ym mis Ionawr 1918). Dyna Apêl at y Cymry: Mynnwn Germani ar ei Gliniau er enghraifft, taflen a argraffwyd gan Samuel Hughes, Pendref Printing Works, Bangor ym 1914.

Argraffwyd fersiwn Saesneg yn ogystal - To the Welsh People, ac ymddangosodd y fersiwn Gymraeg yn Y Brython ar Fedi 17, 1914, lle dywedir bod copïau i'w cael "yn rhad ac am ddim" gan yr Athrawon John Morris-Jones ac E.V. Arnold o Goleg y Gogledd. Plentyn ei gyfnod oedd Syr John wedi'r cwbl fel y dengys y paragraff a ganlyn:

***

'CANIADAU' a ymddangosodd ym 1907 yw'r unig gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd Syr John, ac y mae'r rhan fwyaf o'r cerddi yn perthyn i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y mae'r cywyddau a ganodd y bardd i'w gyfeillion pan oedd yn Rhydychen yn bwysig o safbwynt llenyddol, a chafwyd argraffiad cyfyngedig o'r Cywydd a Ganed Ddydd Priodas Owen M. Edwards ym 1891 er na wyddys pa bryd na phwy a'i hargraffodd.

Cyfrol hardd ei hargraffwaith yw'r Caniadau sy'n ein hatgoffa o'r bri a roes gwŷr fel Ruskin a William Morris ar y celfyddydau cain, a gwelir yr un dylanwad yng nghyfrolau Syr John Rhys a Gwenogvryn Evans. Dim ond y gorau a wnâi'r tro i'r Athro ac 'roedd ganddo gryn wybodaeth o'r gelfyddyd o argraffu, - er mawr ofid i Robert Ashwin Maynard - argraffydd Gwasg Gregynnog, a gynhyrchodd yr argraffiad arbennig o Benillion Omar Kayyâm ym 1928.

"Machine made poetry on hand made paper" oedd dedfryd Marchant Williams ar y Caniadau, a bu yntau hefyd, greadur cecrys, yn ddraenen boenus yn ystlys Syr John. Golygydd The Nationalist oedd y Marchant a chafodd yr Athro driniaeth arw lawer gwaith ar dudalennau'r cyhoeddiad hwn, - cyhoeddiad gyda llaw a sefydlwyd yn unswydd er gwrthwynebu Morris-Jones a'i ddilynwyr, yn ôl awgrym diweddar yr Athro J.E. Caerwyn Williams.

Ond yn Y Goleuad, Y Seren a'r Werin yr ymddangosodd cerddi cynharaf Morris-Jones, a cheir fersiynau cyntaf ei gyfieithiadau o delynegion Heine yn Cymru Fydd a chylchgrawn Coleg y Gogledd, Bangor. Yng ngholofn 'Dafydd Jones yr Hwsmon' yn Y Werin ar Ebrill 9, 1887 cyhoeddwyd darn yn dwyn y teitl 'Awdl Bryddest: Y Jiwbili, gan y archfardd Cocysaidd Tywysogol', sef 'cerdd' hir yn arddull y beirdd talcen slip, a dangosodd yr Athro Caerwyn Williams mai Syr John a'i cyfansoddodd.

Awgrymodd llenor nid anenwog o Gymro ar raglen radio ddiweddar, – AC AWGRYM CYNNIL IAWN YDOEDD, FOD GAN Syr John, gysylltiadau "diddorol iawn" â'r Bardd Cocos o Fôn. Cofiwn i T. Gwynn Jones ffugio cyfrol yn dwyn y teitl Gweith Argoed Llwyvein. Darganfyddiadau'r Dr Dreistaub. Trosiad Saesneg a nodiadau beirniadol gan S. 'OBredasant PhD ym 1943 gan argraffu can copi yng ngwasg y Fran Ddu, a'r gwaith hwnnw'n ddychan ar gyfrolau y gŵr diddorol hwnnw Timothy Lewis.

Tybed ai dychan o fath arall a roes fod i rai o gerddi John Evans, y Bardd Cocos, ac ai ef yntau arall sy'n haeddu clod neu'r anghlod am y gorchestion awenyddol a briodolir iddo? Dau gwestiwn diddorol o gofio'r driniaeth arw a gafodd Iolo Morganwg! A all rhywrai o ddarllenwyr Y Casglwr ein goleuo ar y mater?