SHEMI WÂD : STORÎWR CELWYDD GOLAU
gan Derec Jenkins

YN ÔL Dewi Emrys, Shemi Wâd neu James Wade) o Wdig Sir Benfro oedd yr adroddwr storïau celwydd golau perffeithiaf yng Nghymru gyfan. Rhoddodd ddisgrifiad byw ohono yn ei gyfrol Ysgrifau (Wrecsam, 1937), tt.71-81. Cofnodwyd hefyd lawer iawn o'i storïau ar dâp gan Amgueddfa Werin Cymru. 'Roedd y storïau hyn mor anhygoel fel y gwyddai pawb mai celwydd oeddynt.

Hen lanc oedd Shemi, yn gymeriad lleol adnabyddus iawn. Gŵr byr, cyffiog oedd a wisgai shersi las a het 'sou'wester' beunydd, ac fe hongiai pibell glai ddu, efo'r cawg at i lawr, o'i wefusau. Cuddiwyd y rhan fwyaf o'i wyneb gan farf o glust i glust, a'r rhannau glanaf o'i gorff oedd ei ddwy foch binc.

Carai Shemi i bobl feddwl amdano fel hen gapten-môr, er na chododd erioed yn uwch na meddu ar hen fad pysgota a'i cynhaliodd yn ei flynyddoedd olaf. Hen forwr ydoedd na hwyliodd erioed o olwg tir, ond mewn niwl. Er hyn, siaradai yn rhugl ac aml am ei fordaith eang, pan gyfarfu ag Indiaid Cochion yn Ffiji ac Escimos yn Ne Affrica!

Tyngai fod ei storïau 'yn wir bob gair', a phan amheuai rhywun ei gywirdeb, poerai lond ceg o boer yn llawn sug baco i lygad yr anghrediniwr! Yr oedd muriau bwthyn tlodaidd Shemi wedi eu staenio gan gynigion i ymestyn ei gylch poeri a dim ond ffŵl neu ddieithryn a fynegai anghrediniaeth o fewn tair neu bedair llath o'i geg.

Shemi Wâd (1816 - 97) o Wdig, sir Benfro. Llun gan C. Edwards, Abergwaun, o gasgliad Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd.

Fel y siaradai, tynnai Sherri ar ei getyn, poerai a chrechwenai, gan wyrdroi a chodi ei ysgwyddau, oherwydd meddai ef fod chwain yn ei boeni. Un o'i gelwyddau golau enwocaf oedd am y daten fawr, a oedd mor anferth fel bu rhai ei ffrwydro 'a mynd a hi ar gart llusg yn bedwar pishyn!'

Bu farw Sherri ar 2 Ionawr 1897, yn bedwar ugain mlwydd oed ac fe'i claddwyd ym mynwent Capel Harmony, Pen-caer, a rhoddwyd carreg ar ei fedd drwy haelioni rhai o'i gyfeillion. Arni ysgrifennwyd y geiriau, 'Cyfaill i bawb a hoff gan bawb'.