RHAMANT Y PREN HELYG gan Alyn Giles Jones

AR DDECHRAU 1970 hysbysodd Cwmni Minton eu bod yn chwilio am archifydd a oedd yn gasglwr hefyd i wneud trefn ar eu recordiau helaeth. Wedi i mi wneud cais llwyddiannus am y gorchwyl diddorol yma, yr oedd gen innau broblem – sut y medrwn wneud catalog o bentwr enfawr o ddogfennau oedd yn Stoke-on-Trent a pharhau'n Archifydd Coleg y Gogledd ym Mangor.

Medrwyd datrys y broblem trwy i ddwy fen ddodrefn fawr symud y cyfan ym Mai 1970 i'r Coleg ym Mangor, ac yno y bu'r cyfan nes eu dychwelyd ym 1977.

Sefydlwyd y cwmni llestri gan Thomas Minton (1765-1836), ysgythrwr wrth ei alwedigaeth, ac y mae ei arfau wedi eu cadw yn amgueddfa'r cwmni hyd heddiw. Cafodd ei brentisio gyda Thomas Turner yng ngwaith Caughley, a dywedir mai ef ar ei ben ei hun neu trwy gydweithio â'i feistr, a gyflwynodd y patrwm a elwir yn un Pren Helyg.

Bu'r patrwm yn llwyddiannus o'r dechrau, gan fod yna boblogrwydd mawr i bethau a chysylltiad â China yn ystod y ddeunawfed ganrif. Ac wedi iddo orffen ei brentisiaeth aeth Minton am gyfnod i waith mawr Spode a gydiodd ar unwaith yn y patrwm newydd, proffidiol. Yn wir, yn fuan iawn 'roedd Spode yn cynhyrchu ar yr un pryd hyd at ddeuddeg o amrywiadau ar y patrwm gwreiddiol.

Hefyd fe werthodd Thomas Minton y patrwm i gwmnïau llestri eraill, ond dywedir ei fod yn paratoi ar gyfer gwahanol gwmnïau ysgythriadau a wahaniaethai beth oddi wrth ei gilydd ar y platiau copor y codid y patrwm oddi arnynt. Dyna pam mae'r patrwm Pren Helyg yn amrywio ar lestri gwahanol gwmnïau. Fel enghraifft, ffurfiau a chynffonnau'r adar ar dop y llun; y ffens igam-ogam yn y blaendir; nifer y ffrwythau ar y goeden (ceirios medd rhai, eirin gwlanog medd rhai) sydd ar y dde.

Parhawyd i wneud y llestri 'china' yma ynghyd âi rhai pridd trwy'r ganrif ddiwethaf ac i'r ugeinfed ganrif, ac fe bery eu poblogrwydd hyd heddiw. Ac fe'u cynhyrchwyd gan y cwmnïau mawr i gyd - Spode, Minton, Derby, Wedgwood, Ridgway, Worcester a rhai eraill llai adnabyddus.

***

CREDIR mai rhamant a ddyfeisiwyd yn Ewrop ac nid chwedl o China yn y dyddiau gynt yw'r stori a ddarlunnir mor gyflawn.

Hanes sydd yma am fandarin cyfoethog o'r enw. T'so Ling – a drigai yn ei blas ger yr afon gyda'i ferch brydweddol Koong–se. Fe dyfai helygen osgeiddig ar Ian y dŵr. Cyflogid clarc ifanc o'r enw Chang yn y plas a syrthiodd Koong-se ac yntau mewn cariad, ond nid oedd yn bosibl iddynt briodi gyda'r fath wahaniaeth yn eu safle yn y gymdeithas. Byddent yn cyfarfod yn ddirgelaidd mewn tŷ haf yn y cyfnosau a Chang yn darllen ei ganeuon serch diweddaraf i'w gariad.

Un noson, fe ddaeth y mandarin T'so Ling ar eu pac ac yn ei gynddaredd fe alltudiodd Chang o'r tir a chaethiwo Koong-se i'r plas gan godi ffens o'i amgylch rhag ofn i Chang ddychwelyd, ac fe gododd ystafelloedd newydd uwchlaw'r afon i garcharu ei ferch.

Penderfynodd T'so Ling fod ei ferch i briodi gŵr mewn oed o'r enw Ta–yin yn y gwanwyn, ac fe glywodd Chang am hyn a llwyddo i gael negeseuau i Koong-se. Ac fe ddaeth Ta–yin a'i osgordd i gyrchu ei briodferch ynghyd â gemau yn anrheg. Ond pan oedd y priodfab yn gwledda cyn y briodas daeth Chang yn llechwraidd i'r tŷ, a dihangodd y ddau – gyda Koong-se yn cario ei gwialen a Chang a'r blwch gemau, anrheg Ta-yin yn ddiogel yn ei ddwylo yntau.

Fel yr oedd y ddau yn croesi'r bont fe'u gwelwyd gan T'so Ling, ac, â'i chwip yn ei law dyma eu hymlid ond methu a'u dal. Cuddiodd y ddau mewn cwt cyfagos gan ymbriodi cyn bo hir. Ond parhaodd T'so Ling ei ymchwil amdanynt a bu'n rhaid iddynt ddianc mewn cwch nes cyrraedd ynys bell a chodi tŷ ac ymgartrefu yno.

Daeth Chang yn enwog fel ysgrifennwr ac fel amaethwr ac oherwydd hynny darganfu Ta-yin ble'r oedd, ac yn llawn dialedd fe ymosododd ar yr ynys a lladd Chang. Yn ei galar anhraethadwy rhoddodd Koong-se eu cartref ar dân a marw yn y fflamau. Melltithiwyd Ta-yin gan y duwiau ond anfarwolwyd y ddau gariad trwy eu troi'n ddwy golomen.

***

FE GYNNWYS patrwm y Pren Helyg y stori i gyd: tŷ T'so Ling; y pren helyg; yr ystafelloedd a godwyd i garcharu Koong-se; y ffens; y bont; y tri ar y bont (Koong-se gyda'r wialen, Chang yn cario'r blwch gemau a T'so Ling efo'i chwip); y cwt tu draw i'r bont lle bu'r ddau yn ymguddio; y cwch; yr ynys lle bu'r diwedd. Uwchben y cwbl mae'r ddwy golomen yn hofran.

Fersiwn Minton o batrwm y Pren Helyg

***

MEDR arbenigwr ar y patrwm Pren Helyg ddweud wrth edrych ar unrhyw lestr o ba waith y daeth. Mae natur y glesni yn y lliwio yn amrywio'n hyfryd o gynhyrchydd i gynhyrchydd - o'r cobalt inclyd cyfoethog gan Spode i las ysgafn Worcester.

Yn 1793 ar Poulson's Bank sefydiodd Thomas Minton waith mawr Minton a ddaeth yn waith llestri enfawr y ganrif newydd. Ond er maint ei lwyddiant ysgythrwr ydoedd wrth natur ac yn Amgueddfa Minton medrir gweld y plât copor gwreiddiol y codwyd argraffiad Minton o batrwm y Pren Helyg ohono.

Dymunaf innau gydnabod y ddwy gyfrol - The Willow Pattern Story. 1978 (Fontannaz and Wilson) a Minton Pottery & Porcelain of the First Period, 1793-1850, 1968 (Geoffrey A. Godden.)