PRINTIO PWLLHELI CYN (1900)
Ymchwil enfawr D.Lloyd Hughes

A HITHAU yn ganolfan i ardal, mor drwyadl Gymreig â Llyn ac Eifionydd y mae i ryw raddau yn syndod fod Pwllheli heb lwyddo i gynnal gwasg o fri cenedlaethol yng Nghymru, ond nid oes a wnelo diben yr erthygl hon ag olrhain y rhesymau am hynny. Eithr gellir dweud fod y dref wedi cyfrannu mewn modd nid ansylweddol at gynnyrch gweisg y wlad a hynny bron yn ddi-fwlch o 1828 ymlaen. Er mai am lyfrau a phapurau y sonnir yn bennaf yn hyn o hanes y mae'n werth nodi i'r gweisg hefyd gynhyrchu nifer dirifedi o bosteri, pamffledi a mân bethau eraill.

Hyd y gwyddys y llyfr cyntaf i gael ei argraffu ym Mhwllheli oedd 'lau. Caethiwed yn cael ei ddryllio' gan Thomas Charles o'r Bala. Yr oedd iddo 48 o dudalennau ac fe'i hargraffwyd gan Robert Jones ym 1828.

Ganwyd Robert Jones ym Mryn Pyll, Trefriw, ym 1803, yn fab i Ishmael Davies, argraffydd Llanrwst, ac yn ŵyr, felly i Ddafydd Jones o Drefriw. Hyfforddwyd ef yn y grefft gan ei frawd, John Jones, a bu wrthi ar ei ben ei hun am y tro cyntaf yng Nghonwy ym 1826.

Symudodd i Bwllheli ym 1828, ac yn ôl pob golwg, y wasg a ddefnyddiwyd gyntaf ganddo oedd un bren a fu unwaith ym meddiant Lewis Morris. Fe'i prynwyd gan Morris tua 1731 a'i sefydlu yng Nghaergybi. Arni yr argraffwyd yr unig rifyn a gyhoeddwyd, ym 1735, o'r cylchgrawn Cymraeg cyntaf, 'Tlysau yr Hen Oesoedd'. Bu farw Lewis Morris ym 1765 ac, yn ôl traddodiad, prynwyd y wasg gan Dafydd Jones o Drefriw. Daeth hwnnw â’i argraffiad cyntaf allan arni ym 1776, ac ar ôl ei farwolaeth ef ym 1785, bu'r wasg yn cael ei gweithio gan ei fab, Ishmael Davies, a'i wyrion John a Robert Jones.

***

Y MAE'N ymddangos bod Robert Jones wedi gweithio'r wasg bren ym Mhwllheli am tua phedair blynedd: erbyn 1832 yr oedd ganddo wasg Albion, un haearn, ac arni argraffodd lyfr 'A Funeral Sermon. Pregeth Angladdol Mr John Lloyd', adargraffiad o un a gyhoeddwyd gan wasg arall ym 1830.

Cyn belled ag y medraf ddweud dyma restr o'r llyfrau a argraffwyd gan Robert Jones:

    1.lau Caethiwed yn cael ei ddryllio. T. Charles, Bala, 48 tt. (1828).
    2. Hymnau newyddion i'w harfer ar donau newydd, neu rai o ganiadau Seion, yn cynnwys myfyrdod am amrywiol destunau difrifol. Samuel Jones, 12 tt. (1819).
    3. Caniadau Seion, neu Gasgliad o Hymnau Newyddion, i’w harfer ar Donau rhwydd, sef myfyrdod ar amrywiol Destynau Difrifol. Samuel Jones, 16 tt. (dim dyddiad).
    4. Cofiant neu ychydig o hanes bywyd a marwolaeth Robert Roberts ... o Glynnog. Michael Roberts, 36 tt. (1829).
    5. Ymofyniad Prif Bethau Mewn Dadl rhwng y Bedyddwyr a Bedyddwyr Babanod am Ddeiliaid a Dull Bedydd. Y Parch John Munro, wedi ei gyfieithu gan Michael Roberts, Pwllheli, 180 tt. (1830),
    6. Difyrwch i'r Cristion, neu Gasgliad o Hymnau John Hughes, Rehoboth, Lleyn, 94 tt. (dim dyddiad),
    7. Eglurhad ar y ddeuddegfed bennod yn y ... Pregethwr. G. Solomon, 32 tt. (1832),
    8. A funeral Sermon. Pregeth Angladdawl Mr John Lloyd, Ionawr II, 1832, 24 tt. (1832),
    9. Natur Dyn Gan Griffith Jones, Y Garn, 24 tt. (1833).

Y mae enghraifft o boster o waith Robert Jones yn Llyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor. (UCNW 12570).

***

YR OEDD Robert Jones yn byw ym Mhenlon Lleyn, Pwllheli yn y pedwerydd tŷ ar y chwith o westy'r Whitehall. Bedyddiwyd mab, Robert Griffith, i Robert Jones, argraffydd, a Mary ei wraig yn Eglwys Beuno Sant, Pwllheli, II Awst, 1828. Symudodd Robert Jones i Fangor ym 1834. Yn ôl Y Traethodydd, 1902, gwerthwyd y wasg bren i John Davies Jones, LIanfyIIin, yn ystod pedwar - degau'r ganrif ddiwethaf. Ym mha le, tybed, y mae'r hen wasg hanesyddol hon yn awr?

Cyn i Robert Jones symud o Bwllheli yr oedd John Michael Roberts, mab y Parch Michael Roberts, Pwllheli, yn cynnal siop groser a gwerthu llyfrau, i ddechrau yn 81 Stryd Fawr. Ym 1837-8 yr oedd gŵr o'r enw William Davies yn gwerthu llyfrau yn hen dafarn y Ship (tua 80 Stryd Fawr) ond nid wyf yn gwybod dim o'i hanes.

Dilynwyd J.M. Roberts yn 85 Stryd Fawr gan Williams Stephenson Hoyle (efallai Hoyte) am tua blwyddyn. Pa fodd y daeth y Sais hwn i werthu llyfrau ym Mhwllheli yr adeg honno pwy a ŵyr. Ychydig a wyddys amdano ond bum yn ddigon ffodus i godi cofnod o'r Caernarvon & Denbigh Herald o'i briodas yn Sidmouth ym 1843. Disgrifiwyd ef fel argraffydd a llyfrwerthwr, gynt o Bwllheli. Ni welais ac ni chlywais am unrhyw esiampl o'i waith argraffu tra bu ym Mhwllheli.

Ar ôl Hoyle cymerwyd y siop gan William Potter a'i Gwmni, argraffwyr a chyhoeddwyr, Caernarfon, am gyfnod o dair blynedd (1840-3). Pan rifwyd y boblogaeth ym 1841 nid oedd neb yn byw wrth gefn y siop ar y dyddiad arbennig hwnnw, ac y mae'n bosibl fod y person oedd yn gofalu amdani yn byw mewn man arall. Yn y cyswllt hwn y mae'n ddiddorol fod un Williams Evans, rhwymwr llyfrau 25 oed, yn digwydd aros efo teulu yn Stryd Kingshead, a hwyrach mai ef a fu'n gofalu am fusnes Potter. Arhosodd Evans ym Mhwllheli am gyfnod oblegid ganed mab iddo ar 29 Tachwedd, 1844.

Pan gaewyd cangen Potter yn ystod haf 1843 hysbysebodd William Jones, argraffydd, llyfrwerthwr a gwerthwr papur &c yn y Caernarvon & Denbigh Herald, 19 Awst, 1843, ei fod wedi agor busnes gyferbyn â gwesty'r Whitehall. Yn yr un papur adroddwyd fod William Jones, argraffydd Pwllheli, wedi priodi Miss Margaret Ellis, Gelli Aur, Treffynnon, yn Lerpwl.

Yn rhif 3 Penlon Lleyn, sydd gyferbyn â thalcen y Whitehall, y bu Jones yn byw, i ddechrau a thebyg iddo symud i 83 Stryd Fawr yn ystod haf 1844 ac aros yno am tua blwyddyn. Y mae'n eithaf posib mai William Evans, y rhwymwr llyfrau, a'i dilynodd yn 3 Penlôn Lleyn. Hyd y gwn i dau lyfr yn unig a argraffwyd gan William Jones ym Mhwllheli, sef:

    1. Cymdeithas er amddiffyn hawliau yr Eglwysi Cynulleidfaol, a sefydlwyd yn Abererch Medi 23, 1844. Anerchiad gan D. Morgan ynghyd ag Egwyddorion y Gymdeithas, 8tt.(1844)
    2. Caniadau Byrion. Samuel Roberts (SR), 48 tt. (1844)

Ni welais ddim o hanes William Jones na William Evans ar ôl Chwefror, 1845, ac y mae'n bosib fod y ddau wedi ymadael o'r dref yr un adeg.

***

YR ARGRAFFYDD NESAF i fyw ym Mhwllheli oedd un I.F. Jones. Bu'n ddeiliad tŷ yn Stryd Penlan (rhif 31) o 1845 i 1847 ond ni chlywais am unrhyw esiampl o'i waith.

Bu'r nesaf i weithio ym Mhwllheli yn gyfrwng i ehangu diddordebau ei wasg a hwnnw oedd Robert Edwards, mab y Parch Evan Edwards, gweinidog ar gylchdaith y Wesleaid. Ganed ef yn Llandysul tua 1825 ac, ar ôl i’w dad symud i Bwllheli tua 1848, bu' r teulu yn byw yn Tŷ Mawr, Stryd Penlan, sef y drws nesaf ond un i Penlan Fawr ar yr ochr ogleddol. Bu Michael Roberts yn byw yn y tŷ hwnnw ac yn cadw ysgol yno ar un adeg. Cyflogai Edwards un gweithiwr yn ei weithdy ym 1851.

Ymddengys mai ei waith cyntaf oedd adargraffiad ym 1848 o lyfr y Parch Griffith Solomon, sef 'Eglurhad Beirniadol a Chymmwysiadol ar Lyfr y Pregethwr a elwir hefyd Ecclesiastes' 92 tudalen. Ond ei brif orchest, yr hon a ddaeth a'i wasg i sylw cenedlaethol, oedd argraffu 'Addysg Chambers i’r Bobl' mewn rhifynnau. Bu Eben Fardd, ym mysg eraill, yn un o gyfieithwyr y gwaith Seisnig gwreiddiol ac y mae llythyrau oddi wrth Robert Edwards (NLW Cwrtmawr 479) yn mynegi trafferthion ariannol ac ymddiheurai am fethu talu Eben am ei waith.

Y mae'r llythyrau hefyd yn esbonio mai rhywle yn Ne Cymru y rhwymwyd y gyfrol gyntaf, a disgwyliai Edwards y cai rhwng £700 ac £800 amdani i’w waredu o'i hirlwm ariannol.

Ymddangosodd y gyfrol gyntaf ym 1851 ond nid Robert Edwards ddaeth a'r ail allan. Fe fyddai'n ddiddorol i olrhain ym mha fodd y cafodd gwasg newydd fel hon ym Mhwllheli y dasg o argraffu'r gwaith hwn oblegid prin y gellid cael lle mwy anghysbell oddi wrth y cyhoeddwr Seisnig gwreiddiol yn Llundain yr adeg honno.

***

NI WELAIS sôn am Robert Edwards ar ôl 1851 ac fe'i dilynwyd gan William Edwards. Y mae'n bosib mai mab arall i'r Parch Evan Edwards oedd William. Bu'r gweinidog ym Mhwllheli o 1848 hyd ei farwolaeth yn nechrau 1860, ac y mae nodyn bywgraffyddol di-ddyddiad ar Francis Evans (olynydd Tegai fel argraffydd ym Mhwllheli) yn dweud mai oddi wrth Evan Edwards y prynodd Tegai ei wasg (NLW Cwrtmawr 347). 0s oedd hynny'n wir y mae'n hawdd credu fod perthynas rhwng Evan a William Edwards. Gwyddys mai yn Stryd Penlan y bu William yn argraffu.

Nid wyf yn gwybod am ragor na dwy enghraifft o waith William Edwards, sef:

    1. Galargan ar ôl Syr Love P. Jones Parry, o Barc Madryn, yr hwn a fu farw ar y 23ain o Ionawr, 1853, yn 71 mlwydd oed. Mesur 'Diniweidrwydd' (Owain ab Gwilym a'i cant), 4tt. (1853).
    2. Pymtheg o Ddarlithiau ar Hanes y Cymry. Gan y Parch: Owen Jones, Gweinidog yr Efengyl yn Manchester, 356 tt. (1853). Cyhoeddwyd mewn rhifynnau a fe'u rhwymwyd.

Ymfudodd William Edwards i Unol Daleithiau'r America ac, fel y crybwyllais eisoes prynwyd y wasg gan Hugh Hughes (Tegai). Bu hwnnw'n byw i ddechrau yn 26 Stryd Penlan, sef y drws nesaf i’r Parch Evan Edwards, ac yn ddiweddarach symudodd y busnes i gongl Stryd Penlan a Stryd Fawr, mwy na thebyg i’r hen Siop Steps a fu unwaith yn enwog yn y dref.

Bu Tegai yn hynod o weithgar yn ystod ei gyfnod byr o rhwng pum a chwe blynedd ym Mhwllheli ac ar lawer ystyr gellir ei gyfrif fel y mwyaf cynhyrchiol o holl argraffwyr y dref. Wele restr o'r llyfrau ddaeth allan o'i wasg:

    1. Casgliad o Ofynion allan o Lyfr Genesis. Gan R. Jones, Llangybi, 16 tt. (1855),
    2. Casgliad o Hymnau profiadol at wasanaeth y Methodistiaid Wesleaidd, 16 tt. (1855),
    3. Yr Olyniaeth Apostolaidd. Gan Samuel Roberts (SR), 56 tt. (1855),
    4. Gramadeg Cymraeg. Gan Hugh Tegai, 56 tt. (1856),
    5. Llyfr ar Resymeg. Gan Hugh Tegai, 56 tt. (1856),
    6. Marwnad y Parchedig John Jones, Talysarn, ARFON. Owen Owens, Cefn Plwyf Meyllteyrn a'i cant, 4 tt. (dim dyddiad),
    7. Cofiant John Jones, Talsarn. Gan Hugh Hughes (Tegai), 56 tt. (1856 neu 1857),
    8. Galargan er coffadwriaeth am Mr Richard Thomas, Tanllan, Tudweiliog, Lleyn, yr hwn a ymadawodd o'r byd hwn Mai 15, 1857. Robin Llwyn a'i cant, 4tt­(1857),
    9. Pryddest ar Bechod, ei Effeithiau, a'r Waredigaeth oddi wrtho. Gan William Williams (Gwilym ap Gwilym Lleyn), 48 tt. (1859),
    10. Y Drydedd Oruchwyliaeth. Pregeth gan Hugh Hughes (Tegai), 36 tt. (1860).

Eithr nid oes amheuaeth, mai gorchest fwyaf Tegai oedd argraffu a chyhoeddi papur newydd Cymraeg wythnosol am bedair blynedd. Enw'r papur i ddechrau oedd Yr Eifion ac ymddangosodd hwnnw o lonawr 3, 1856, hyd Gorffennaf 17 yr un flwyddyn. Yr Eifion oedd o bosib y papur Cymraeg dimai cyntaf erioed. Helaethwyd maint y papur o 24 Gorffennaf, 1856, ymlaen, newidiwyd yr enw i Yr Arweinydd a chodwyd y pris i geiniog.

Bu'r papurau yn gyfrwng i newyddion lleol a chenedlaethol a bu Ceiriog, ymhlith eraill, yn cyfrannu'n gyson gyda'i ohebiaeth ynglŷn â'r cymeriad dychmygol hwnnw, Syr Meurig Grynswth beiriant cynhyrchu barddoniaeth. Parodd Yr Arweinydd hyd 28 Rhagfyr, 1859, a bwriadai Tegai ei ddilyn gydag Arweinydd misol, cylchgrawn i ieuenctid. Dau rifyn yn unig a ymddangosodd, yn Ionawr a Chwefror, 1960. Nid oes unrhyw gyfeiriad arnynt i ddangos mai ym Mhwllheli y'u hargraffwyd ond maent ar restr y Llyfrgell Brydeinig fel cynnyrch y dref.

Credir mai Tegai ei hun oedd y cysodydd ar adegau. Y mae sillebiaeth y papurau newyddion yn aml yn hynod wallus a thybid fod Tegai wedi cael trafferth i gyflogi cysodwyr da. Y mae cystal ag ymddiheuro am safon yr argraffu mewn un llyfr a gyhoeddwyd ym 1856. Yn ôl Y Bywgraffiadur Cymreig ymadawodd Tegai i fod yn weinidog Bethel, Aberdâr, ym 1859 ond, fel y gwelid, fe gyhoeddwyd un llyfr a dau rifyn o gylchgrawn dan ei wasg ym Mhwllheli ym 1860. Eithr dylid sylwi mai'r enw Henry Hughes sydd wrth draed y rhifynnau olaf o'r Arweinydd. Newydd gael y wybodaeth yma yr wyf, ac nis gwn pwy oedd Henry Hughes.

***

TRA BU Roberts a Williams Edwards a Tegai yn argraffu ym Mhwllheli bu gŵr ifanc o'r enw John Thomas yn gwerthu llyfrau yn y dref. Fel llyfrwerthwr y disgrifiodd ei alwedigaeth adeg rhifo'r boblogaeth ym 1851 a'r pryd hynny 'roedd yn byw gyda'i rieni, John ac Eleanor Thomas, yn Siop Newydd, sef safle 74 Stryd Fawr a chartref gweisg Robert Owen a Richard Jones yn ddiweddarach. Gwneud a gwerthu esgidiau 'roedd ei dad a bu John y llyfrwerthwr farw yn ŵr ifanc 29 oed Rhagfyr 17, 1856.

Cymerwyd busnes John Thomas drosodd gan Francis Evans. Ganed ef Hydref 2, 1836, yn Gwernallt, Llanarmon, Eifionydd, a dechreuodd ei yrfa fel clerc yn swyddfa Owen, cyfreithiwr ym Mhwllheli. Nid yw'n gwbl glir ym mhle'r oedd ei siop gyntaf ond erbyn 1896 yr oedd yn cynnal ei fusnes gyferbyn a gwesty'r Tŵr, yn yr adeilad a elwid yn ddiweddarach yn Tower Stores. Y drws nesaf iddo oedd tafarn y 'Goat' neu, fel y cofir amdani, Siop Meic. Ni ddysgodd y grefft o argraffu o gwbl a bu'n cyflogi o bedwar i chwech o ddynion profiadol gydol y flwyddyn. Os yw hynny'n wir y mae'n syndod mai dim ond pump o'i gyhoeddiadau sydd wedi dod i sylw, sef:

    1. Byr Ganeuon gan Patrobas, 32 tt. (1862),
    2. Effeithiau Niweidiol Diota gan Williams Gwyddno Roberts, 32 tt, (1865),
    3. Y Blodeuyn Gwywedig, sef Detholion o Gyfansoddiadau y diweddar Glan Erch, ynghyd a Hanes Bywyd yr Awdur. Gan ei Frawd, 110 tt. (1865),
    4. Dyrnaid o Hen Ŷd y Wlad gan y Parch W. Williams, Nefyn, 92 tt. (1868),
    5. Fy Mam. Griffith Hughes, Edeyrn, 12 tt. (dim dyddiad).

Bu farw Francis Evans, Ebrill 8, 1876.

Cyn symud ymlaen oedaf i sôn am un rhwymwr llyfrau yn y dref. Hwnnw oedd Thomas Williams a bu ef yn byw yn Stryd Fawr, Stryd Llan a Lôn Dywod (rhif 5) lle bu farw Mai 27,1879. Er bod Roberts Edwards wedi anfon Addysg Chambers i Dde Cymru i gael ei rwymo ym 1851 yr oedd Thomas Williams y pryd hynny tua 37 oed ac felly yn amlwg yn ddigon profiadol i rwymo cyfrolau trwchus. Am y 17 mlwydd olaf o'i oes bu'n cario llythyrau a gwerthu llyfrau.

Gwerthwr llyfrau arall yn y saithdegau oedd J T Evans, Stryd Llan, a bu hwnnw farw Ionawr 10, 1879. Y mae hyn yn dangos fod nifer o lyfrwerthwyr wedi bod yn cadw busnes ym Mhwllheli yn ystod y ganrif ddiwethaf ac y mae'n ddiddorol hefyd fod dau lyfrwerthwr teithiol ar Y Maes mewn carafán adeg rhifo'r boblogaeth ym 1851, sef John Challinor a Thomas Lloyd.

***

YR OEDD olynydd Francis Evans, Robert Owen, wedi dechrau ei yrfa rai blynyddoedd cyn marwolaeth hwnnw oblegid hysbysebodd ei fasnach yn y Caernarvon & Denbigh Herald Tachwedd 19, 1870, ond rhaid sylwi mai fel llyfrwerthwr y disgrifiodd ei hun adeg rhifo'r boblogaeth ym 1871. Robert Owen, fwy na thebyg, oedd y cyntaf o argraffwyr Pwllheli i hanu o'r dref ac yr oedd yn fab i Robert Owen, Töwr, ac Elizabeth ei wraig, o Benlôn Lleyn. Fe'i ganed ym 1844. Gan nad oedd Francis Evans yn medru argraffu ei hun y mae'n bosib mai Robert Owen oedd yn gyfrifol am argraffu y llyfrau o’i wasg. Hyd y gwyddys ni argraffodd gweisg Evans lyfr ar ôl 1868.

Gyda'i fam weddw ym Mhenlôn Lleyn yr oedd Robert Owen yn byw ym 1871. Y mae'n bosib fod gan honno siop i werthu'r melysion yr oedd hi'n gynhyrchu yr adeg honno a bod Roberts yn defnyddio rhan ohoni i arddangos ei lyfrau. Nid wyf yn gwybod ym mhle 'roedd y siop honno ond yr wyf yn fodlon fod Robert Owen yn argraffu yn Siop Newydd, 74 Stryd Fawr, ym 1887.

Cynnyrch gwasg Robert Owen oedd:

    1. Angel Pen Ffordd a Diafol Cil Pentan. Gan y Parch. W. Williams, Nefyn, 64 tt. (1871),
    2. Capel Newydd Bwlch Llanengan. Hanes dechreuad, cynnydd ac agwedd bresennol Methodistiaeth yn y Plwyf ynghyd ag Adroddiad cyflawn am y Capel Newydd, 48 tt. (1872). Tybir mai'r awdur oedd Thomas Williams. M.D. Dwylan.
    3. Caneuon Oriau Hamddenol y Parch John A. Williams, Llaniestyn, Lleyn, 128 tt. (1874),
    4. Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Genedlaethol Freiniol Pwllheli, 1875, Dan olygiad H.D. Williams, 176 tt. (1876),
    5. Anerchiad Cyflwynedig i Eglwys Grist yn Penmount, Pwllheli. Gan y Parch Thomas Owen. 8 tt. (1876),
    6. Traethawd ar Fywyd ac Athrylith y Parch John Roberts (leuan Gwyllt) gan John Owen, MA, Cricieth, ac Alaw Ddu, 104 tt. (1879-80),
    7. Hanes Bywyd y Diweddar Ellis James, Ty'n Llwyn, Bangor, gan John Jones, Plastirion, Pwllheli, 100 tt. (1881),
    8. Daearyddiaeth Anianyddol gan A. Geikie, F.R.S. wedi ei gyfieithu o Gyfres y 'Science Primers'. Dan Olygiad H.J. Williams (Plenydd), 16 tt. (1881),
    9. Cofiant a Phigion o Bregethau y Parch. Michael Roberts, Pwllheli, gan John Jones, R.R.G.S., Plastirion Pwllheli, 200 tt. (1883),
    10. Haelioni Crefyddol. Papur a ddarllenwyd yng nghyfarfod misol Tŷ Mawr, Mawrth 30,1885, gan Robert Rowland, Pwllheli, 16 tt. (1885),
    11. Marwnad y diweddar Barch Gruffydd Hughes, Edeyrn. Un o destunau cylchwyl lenyddol a gynhaliwyd yn Rhydyclafdy, Llun y Sulgwyn, 1886. Gan Deigryn Atgof, 24 tt. (1886),
    12. Sibrwd yr Awel, sef Cyfansoddiadau Barddonol Ellen Hughes, Llanengan, 66 tt. (1887). Bu farw Robert Owen Rhagfyr 12, 1888, yn 44 oed.

***

OS OES ansicrwydd a fu dwy wasg yn y dref ar un adeg yng nghyfnod Francis Evans a Robert Owen nid oes unrhyw amheuaeth fod dwy yno yn ystod saith ac wythdegau’r ganrif oblegid daeth Richard Jones i’r dref i sefydlu gwasg tua 1871.

Ar adeg rhifo'r boblogaeth, 1871, yr oedd Richard Jones yn ŵr ifanc 19 oed, yn hanu o Lannor, plwyf sy'n ymylu â Phwllheli, ac arhosai yn y Mostyn Arms, Penlôn Lleyn. Galwai ei hun yn argraffydd y pryd hynny ac y mae'n bosib ei fod yn gweithio dan gyflog i Robert Owen. Eithr erbyn 1876 yr oedd Jones wedi sefydlu ei hun yn y Minerva Printing Works, Pwllheli.

Yn ôl pob golwg dyna'r flwyddyn pryd yr argraffodd ei lyfr cyntaf o dan ei enw ei hun ond nid wyf yn sicr ym mha le y sefydlodd ei weithdy cyntaf. Yn Yr Herald Cymraeg, Medi 8,1880, rhoddwyd ei gyfeiriad fel Sand Street (Y Traeth) ond ar lyfr a gyhoeddwyd ym 1879, sef blwyddyn yn gynharach, ac ar lyfrau ym 1883 ac 1884, rhif 19 Stryd Fawr yw'r cyfeiriad a ddynodir.

Ar ôl i Robert Owen farw, ym 1888, y symudodd Richard Jones i 74 Stryd Fawr, ei gartref am bron hanner canrif. Bu farw 19 lonawr, 1935, yn 83 mlwydd oed.

Perthyn Richard Jones, felly, i ddwy ganrif ond bwriedir cyfyngu y rhestr o'i gynnyrch i’r cyfnod cyn 1900. A dyma nhw:

    1. Caneuon y Plant. At Wasanaeth leuenctid Cymru. Gan T.E. Griffith. Allt Ddu, Pwllheli, 64 tt. (1876),
    2. Anthem. Gweddi Jonah 'O'm Hing y Gelwais' Jonah ii, 2-9. Gan E. Ylltyr Williams, Awdur y 'Perorydd Cymreig', 'Caneuon y Bobl', 'Alawon y Bobl' ac 'Alawon y Plant'. 16 tt. (1878),
    3. Caniadau Ieuan Lleyn, ynghyd a Sylwadau ar ei Fywyd a'i Waith. Gan Myrddin Fardd, 128 tt. (1878)
    4. Alco Feddyg: neu Beryglon ac Aneffeithiolrwydd Diodydd Meddwol fel Meddyginiaeth. Gan T.E. Griffith, Allt Ddu, Pwllheli, 40 tt. (1879),
    5. Gwaith Barddonol Iona Madog ynghyd a Bywgraffiad o'r Awdur a llythyrau oddi wrth rai o brif feirdd y genedl. 0 dan olygyddiaeth Cynhaiarn. 184 tt. (1881),
    6. Can Newydd. Deigryn ar Fedd Mam. Eos Graianog, 2 tt. (1884),
    7.Cydymaith yr Ysgol Sabothol. Cylchgrawn misol ar wasanaeth Ysgolion Sabothol yr Annibynnwyr, am 1884-5. Dan olygyddiaeth R. Thomas, Glandwr, ac 0. Jones, Pwllheli. Y mae'r gyfrol gyntaf o'r misolyn yn dechrau Ebrill, 1884, ac yn diweddu Rhagfyr, 1885 ac yn cynnwys 336 o dudalennau.
    8.Cofiant y Parch S. Edwards, Machynlleth. Gan ei Fab (W.D. Edwards), 120 tt. (1884),
    9.Blodau Eifion. Sef Gwaith Barddonol Mair Eifion, Porthmadog. Dan Olygyddiaeth Gwilym Eryri. (1884),
    10.Welsh Airs for Use in Day School. David Jenkins, Mus. Bac., xvii, 204 tt. (1888),
    11. Bywyd lesu Grist i’r Plant. At wasanaeth leuenctid yr Ysgol Sabothol. Gan Dr Silyn Evans, Solva Aberdâr, 116 tt. (1886-7),
    12. Odlau Barddas. Gan y Parch J. Daniels (rhabanian). Cured Meyllteyrn, 128 tt. (1888),
    13. Hanes Dechreuad a Chynnydd Crefydd yn Pencaenewydd. Traethawd Buddugol yn Nghylchwyl Llenyddol Glannau Erch a gynhaliwyd yn Pencaenewydd, Nadolig, 1886. Gan Robert Williams, Fourcrosses, 35 tt. (1887),
    14. Newyddion o Fywyd a Heddwch. Dan olygyddiaeth W: Jones, 2 York Place, Bangor, 20 tt. (1888),
    15. Diogelwch Sicrwydd a Mwynhad. Os credadyn, paham nad ydych yn sicr o iachawdwriaeth? Os cadwedig, paham nad ydych yn ddedwydd?. loan v. 13, A.S. Rouse, 46 tt. (1890),
    16. Cyfansoddiadau Barddonol gan Ioan Glan Menai. (1890),
    17. Adroddiad Cymdeithas Genhadol y Methodistiaid Calfinaidd yn Nosbarth Lleyn ac Eifionydd, 1889. 54 tt. (1890),
    18. Hunan-gofiant ynghyd a Phregethau a Barddoniaeth y diweddar Barch Roberts Hughes (Robin Goch), Uwchlaw'r ffynnon. Wedi eu casglu ganddo ef ei hun ac wedi eu trefnu a than olygiaeth ei fab. Cyhoeddedig gan William Hughes, Tŷ Bwlcyn, Dinas. 228 tt. (1893),
    19. Cyhoeddiadau Sabothol y Methodistiaid Calfinaidd yn Lleyn ac Eifionydd am 1895.24 tt. (1895),
    20. Holwyddoreg ar Barnwyr I-XVI ynghyd ag eglurhad ar Eiriau &c. Gan Ceridwen Peris, 36 tt. (1896).

Y mae'r rhestr hon yn dangos pwysigrwydd Richard Jones yn y byd argraffu ym Mhwllheli ac fe ellir ychwanegu rhestr eithaf lluosog o lyfrau a argraffwyd ganddo ar ôl troad y ganrif.

Eithr hwyrach mai cymwynas fwyaf Richard Jones oedd helpu i gychwyn a chynnal papur lleol am 65 o flynyddoedd. Hwnnw oedd Udgorn Rhyddid, newyddiadur wythnosol a ddaeth allan ar lonawr 4, 1888, i hyrwyddo dyheadau politicaidd Lloyd George i ddechrau, ond, a barodd, wedi i hwnnw golli diddordeb, fel papur bro ar gyfer y dref. Cyhoeddwyd y papur fel Udgorn Rhyddid o lonawr 4, 1888, hyd Hydref 19, 1898, Yr Udgorn o Hydref 26,1898 ac Yr Utgorn o Awst 7, 1949, hyd Ragfyr 31, 1952.

Anfonwyd bwndelau o'r papur drwy'r post bob wythnos ar hyd y blynyddoedd i gadw cysylltiad yn fyw rhwng y dref a'r brodorion oedd wedi ymadael a chwith iawn oedd ei golli. Y mae'n rhyfedd fel y mae papurau bro wedi datblygu ar hyd a lled Cymru a Phwllheli, o bob man, heb yr un oblegid nid yw Llanw Llŷn wedi ceisio gwasanaethu'r dref i'r un graddau a'r Utgorn.

***

YCHYDIG o bobl ŵyr bod Richard Jones wedi cyhoeddi ac argraffu papur wythnosol arall, sef The Pwllheli Chronicle and North Wales Gazette, o Ragfyr 7, 1889, hyd Medi 16, 1895. Hyd y gwn i y mae'r unig set gyflawn o'r newyddiadur hwn yn Y Llyfrgell Brydeinig, Colindale, Llundain. Ni wn am fodolaeth unrhyw gopi o'r papur yng Nghymru. Bu'n arferiad hefyd gan Richard Jones gyhoeddi rhestr o ymwelwyr yn yr ardal ar un adeg mewn wythnosolyn a elwid The PwIlheli and Abersoch Visitor and South Caernarvonshire Advertiser. Yr wyf yn gwybod am un copi yn unig a argraffwyd yn ystod haf 1894. Nid oes gan y Llyfrgell Brydeinig gopi o gwbl; ni wyddant amdano.

Bu Richard Jones hefyd yn argraffu misolyn cyd-enwadol dwyieithog o dan nawdd Capel Presbyteraidd Saesneg Lôn yr Ala. Hwnnw oedd y Pwllheli Home Messenger a ymddangosodd am y tro cyntaf yng Ngorffennaf, 1899. Parodd hyd Rhagfyr 1902, ond ymddengys mai dim ond y chwe rhifyn cyntaf ym 1899 ddaeth allan o wasg Richard Jones.

***

CYN TEWI am argraffu ym Mhwllheli cyn 1900 rhaid son am ddwy wasg fach arall. Y gyntaf yw gwasg Owen Humphreys yn Stryd Fawr ac y mae hanes tri o'r cynhyrchion, sef:

    1. Peroriaeth. J.O. Williams, (Pedrog), 32 tt. (1888),
    2. Testynau Eisteddfod Gadeiriol Gwynedd. 4tt. (1889,
    3. Cymdeithasfa Pwllheli. Awst 26-28, 1891. Trefn y Cyfarfodydd a'r Emynau genir 16 tt. (1891).

Bu Owen Humphreys farw yn niwedd Hydref, 1899.

Yr ail ddifyrraf o ran enw, oedd y Bell Press Office. A oes gan rywun hanes y wasg hon, tybed? Am un o'i chyhoeddiadau y gwn i, sef — Holi ac Ateb i'r dosbarth cyntaf gan Thomas Edward Jones, BA, Offeiriad, Pwllheli, 80 tt. (1891).