NEWYDDION BRAF A DDAW O'N BRO gan Prys Morgan

OS EDRYCHWCH ar Gylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, rhifyn Mawrth 1927, fe welwch yno erthygl fer gan J.O. Evans gweinidog Tre-hyl, Tresimwn ger Caerdydd, ar lyfr cyhoeddiadau Aberddawen o 1807 i 1813. Mae wedi ei seilio ar hen lyfr a oedd ym meddiant J. 0. Evans bryd hynny, llawysgrif hen flaenor o seiat Aberddawen o'r enw Christopher Ballard, 'Roedd tad yng nghyfraith Mr Evans, yr hanesydd Methodistaidd William Morgan o'r Pant, Dowlais, wedi cael y llyfr a phecyn o bethau eraill yn perthyn i Ballard oddi wrth ei ddisgynyddion, mae'n fwy na thebyg.

Siopwr, groser mae'n bosib, oedd Christopher Ballard, wedi ei eni ym 1782, a bu'n byw yn Aberddawen, wedyn ym Mhenon (lle ganed Iolo Morganwg, gelyn mawr i'r Methodistiaid), wedyn yn Llancarfan (lle 'roedd y Methodistiaid yn cwrdd mewn hen sgubor ddegwm), wedyn yn Llancadal, ac yn olaf ym Mhen-marc. Cewch beth o hanes y Methodistiaid a fu yn y pentrefi hyn yng nghyfrolau Aneirin Talfan Davies, Crwydro Bro Morgannwg. Yn y tŷ a elwir heddiw yn 'Old Chapel House' ym Mhen-marc y bu'r Methodistiaid yn cwrdd yno yn y dyddiau cynnar.

Un o arweinwyr Methodistiaeth glannau Bro Morgannwg oedd Ballard yn chwarter cyntaf y ganrif ddwethaf. Ni wyddai J. 0. Evans am ddyddiad ei farw, ond gwelais gofnod yn y rhestri etholwyr ei fod yn para ar dir y byw ym Mhen-marc mor ddiweddar ag 1844, ac yna mae'n diflannu.

***

FLYNYDDOEDD yn l, prynodd fy nhad becyn o bethau Christopher Ballard o siop a'u cafodd wedi dydd J. 0. Evans, yn cynnwys nifer o bethau eraill sydd o ddiddordeb i'r casglwr, fel copi o daflen holiadur y Corff i holl eglwysi Cymru ym 1850-51, a llawysgrif o hanes yr eglwys yn Nhre-hyl gan J.O. Evans ei hun (a oedd wedi dod yno ym 1909).

Y pethau printiedig sydd o ddiddordeb yw casgliad o ddeugain o lyfrynnach neu bamffledi a brynwyd gan Ballard rhwng tua 1805 a 1820 sydd yn ddrych o fyd masnachwr o Fethodist selog yng ngwaelod Bro Morgannwg yn y cyfnod hwnnw. Efallai nad oes gwerth iddynt yn unigol, ond y maent o ddiddordeb yn eu crynswth.

Effemera mewn ffordd yw'r un tudalen coffa i'r pregethwr John Evans y Bala a fu farw yn 1817, ond ni ellir galw gŵr a fu farw yn 96 mlwydd oed yn ephemeral. Cymdeithas wedi troi oddi wrth y byd oedd Methodistiaeth, ac nid oes fawr yma o ddiddordeb cyffredinol, ac eithrio llyfryn ar Dick Whittington (Caerfyrddin 1792) ac un ar Iudas Iscariot (Merthyr, dim dyddiad) ac o bosib Hanes y Gymdeithas a sefydlwyd yn Llundain (Caerfyrddin 1804) sef y Feibl-Gymdeithas, ond gan mai Thomas Charles oedd yr ysbrydolwr, nid oes syndod fod Ballard yn prynu'r llyfryn.

Charles biau'r llyfr The Welsh Methodists Vindicated (Caer 1802), a dyna'r unig lyfr Saesneg yng nghasgliad Ballard: Charles neu beidio, nid yw Ballard wedi torri'r tudalennau, 'library copy' ydyw yn iaith y llyfrwerthwyr, ac efallai nad oedd Saesneg Ballard ddim yn ddigonol i'w ddeall.

Yr unig bethau sydd gan Ballard sydd yn sn am y Gogledd yw copi o chweched argraffiad Lleferydd yr Asyn (Trefriw 1819) gan Robert Jones Rhos-Ian, a Maen o Goffadwriaeth (Caerfyrddin 1804) sef marwnad Robert Roberts o Glynnog gan Sin Lleyn.

Gyda llaw, ac nid yw hyn yn berthnasol o gwbwl i Christopher Ballard, mae gennym gopi o Lywarch Hen Pughe a fu ym meddiant Sin Lleyn, yn llawn o'i nodiadau a pheth barddoniaeth ganddo mewn llawysgrif. Ond yn l at Ballard.

***

AT EI gilydd ychydig o emynau cynulleidfaol sydd wedi goroesi yn y casgliad. 'Roedd Ballard yn adnabod John Lewis o Lantrisant, ac mae ganddo gopi o'i Hymnau Newyddion (Merthyr 1808); 'roedd hefyd yn adnabod Hopkin Bevan o Langyfelach, ac mae ganddo gopi o lyfryn hanes Hopkin Bevan (1838) ac o'r casgliad emynau a wnaeth gyda John Thomas o Ynyspowys ac eraill ym 1837.

Efallai bod y casgliad pamffledi rhyddiaith wedi diflannu, nid oes yma ddim ond Atteb i Wr Bonheddig gan Bantycelyn (Aberhonddu 1784) ac Ymddiddan rhwng Methodist Uniawngred ac un camsyniol (3ydd argraffiad Caerfyrddin 1792).

Un o'r ychydig ddarnau o gynghanedd sydd yn y casgliad yw pamffledyn pedwar tudalen wedi ei argraffu ym Merthyr gan Price tuag 1810 o'r enw Cn newydd o fyfyrdod ar y bedd.

***

GALARNADAU a marwnadau, mae'n amlwg, oedd hoff ddarllen Ballard. Nid yn annisgwyl efallai mae ganddo fwy nag un copi o farwnad Pantycelyn i Christopher Bassett o Aberddawen (1784). Yn y casgliad cawn un i Peter Williams gan John Williams San Tathan (Caerfyrddin 1796); i Bantycelyn gan Jacob Jones (Caerfyrddin, d.d.); i William Williams Aberteifi gan Benjamin Francis (Caerfyrddin 1799); i Daniel Rowland gan nai Dafydd Jones Llan-gan (Caerfyrddin 1791); marwnad ddienw i'r meddyg William Lewis Gellyfailog (Aberhonddu 1811); i Rowland Pugh o Ferthyr gan Thomas Price (Talgarth 1810); Galarnadau Seion gan Evan Dafydd (Caerfyrddin 1808); Llinell i'r Byd ac alarwm i'r egluys gan Thomas Morris (Caerfyrddin 1791), sef marwnad i Fedyddiwr; marwnad i Ddafydd Jones o Ddl-goch, sir Aberteifi gan Maurice Jones (dim dyddiad, ond prynwyd ym 1814); i Daniel Rowland gan Price Llangammarch (Aberhonddu, d.d. ond prynwyd ym 1814), i Ddafydd Jones Llan-gan (a gafodd gymaint o ddylanwad ar Fethodistiaeth y Fro) gan John Miles o Ben-coed (Caerfyrddin, d.d. ond prynwyd ym 1811); i William Thomas o'r Pl gan Ddaniel Daniel o'r Constant ger Margam (Abertawe d.d. ond prynwyd ym 1812); i Jones Llan-gan gan Morgan Jones y Cymmar (Caerfyrddin d.d.); i Jones Llan-gan unwaith eto gan John Lewis Llantrisant a brynwyd gan Ballard oddi wrth Lewis ei hunan am ddwy geiniog Medi 26 1810, tua mis a hanner wedi marw Jones Llan-gan; i Dafydd Rees o Lanfynydd gan Thomas Dyer o Lanegwad (Caerfvrddin 1818) - a chan fod y Dyer hwn yn dod o'r un fro 'r bardd Eingl-Gymreig John Dyer, a oedd o'r un teulu tybed?; i Miss Bevan o Bengay gan Evan Dafydd (Caerfyrddin 1806) ac yn olaf, un i Samuel Llwyd o Abertawe gan Jones Llan-gan ei hun, neu 'Dafydd ap Ioan' a rhoi ei enw barddol iddo, fel sydd yn y pamffledyn (Abertawe 1805).

Un dernyn bach sydd yma o lawysgrif Ballard ei hun, a chopi yw o emyn a wnaed Mawrth 24 1809 yn dechrau

Ond rhag ofn i chi feddwl mai dylanwad ei gymydog Iolo Morganwg sydd ar Ballard, a'r son ymddangosiadol am ryddhau'r caethweision trwy ymerodraeth Prydain ym 1809, brysiaf i ddweud mai am 'Adgyfodiad y Meirw' y mae'r emyn, nid am gaethweision y sustem economaidd. Nid un o blant y byd oedd Ballard, er ei fod yn fasnachwr prysur ar hyd ei oes.

***

DYLWN ychwanegu fod Ballard hefyd wedi cael copi o dair rhan Dyfroedd Bethesda gan Thomas Wiliam, Bethesda'r Fro (1824) a chan eu bod yn gymdogion, mae'n debyg eu bod yn adnabod ei gilydd. Rhwng annibyniaeth barn Thomas Wiliam, ac Undodiaeth Iolo, a Methodistiaeth Dafydd Jones Llan-gan, mae'n rhaid bod y cornelyn hwn o'r Fro yn ferw o ddadlau crefyddol yn y cyfnod hwn.

Mae'n anodd i ni heddiw ddychmygu'r newid a ddaeth ar fywyd y Fro o fewn cenhedlaeth neu ddwy, y troi cefn a fu ar fywyd llawen y campau a'r taplas a'r fedwen haf y cewch ddisgrifiad ohono yng ngwaith Iolo Morganwg, neu ychydig yn ddiweddarach yng ngwaith Matthews Ewenni.

'Roedd Robert Jones Rhos-Ian yn achwyn fod yr hen Gymry yn hebrwng y meirw i'w hir gartref yn 'anystyriol'. Ni ellid cyhuddo Ballard, a'i darllen diddiwedd yma ar farwnadau a cherddi coffa, o fod yn 'anystyriol'.

***

MAE POB casglwr, mae'n debyg, wedi dod ar draws y pamffledi hyn yn unigol, neu rai ohonynt, ond mae gweld deugain ohonynt o'r bron fel hyn yn gwneud i ddyn ymdeimlo i'r byw i'r difrifoli dwys a ddigwyddodd yn y cyfnod hwn ym mywyd gwerinwyr di-nod fel Ballard.

Mae'n gryn syndod i ni sydd yn adnabod Bro Morgannwg heddiw i weld dyn 'r enw Ballard, ac yn dod o Aberddawen (lle mae hen enwau'r caeau hyd yn oed yn Saesneg mediefal, yn aml) yn Gymro mor drwyadl. Ond 'roedd Ballard yn byw yr union adeg pan oedd y Gymraeg wedi ennill tir, ac wedi adennill Bro Seisnigedig yr oesoedd Canol, ac wedi cyrraedd ei hanterth. Erbyn cyfnod J.0. Evans 'roedd y Gymraeg yn dirywio a diflannu yng ngwaelod y Fro.

Os oedd yna drai a llanw ar y Gymraeg bryd hynny, onid oes modd dychmygu trai yn troi'n llanw unwaith eto yn yr un Fro? Nid am drai a llanw'r heniaith y byddai Ballard ei hun yn poeni, mae'n siŵr, ond am lwyddiant neu aflwyddiant crefydd. A phwy a ŵyr beth yw dyfodol crefydd?