CYFRES Y SANT ~ Cipdrem Syr Thomas Parry

Y LLYFR cyntaf yn y gyfres ddwyieithog a gyhoeddir ar gyfer Gŵyl Dewi gan Wasg Prifysgol Cymru oedd Hywel Dda gan J. E. Lloyd yn 1928 ar achlysur dathlu milflwyddiant y deddfroddwr hwnnw. I bwrpas y dathlu y flwyddyn a ddewiswyd oedd 928, sef y flwyddyn yr aeth y brenin ar bererindod i Rufain. Ar gyfer plant ac athrawon mewn ysgolion y bwriadwyd y llyfr, ac y mae'r arddull yn ddrych o hynny. Byr ydyw, y byrraf yn y gyfres, dim ond 44 o dudalennau, y Gymraeg ar y dudalen chwith a'r Saesneg ar y dde.

Fel y gweddai i lyfr dathlu, y mae graen arbennig ar olwg y llyfr. Cynlluniwyd ef gan R.A. Maynard, goruchwyliwr Gwasg Gregynog. Rhannwyd y cynnwys yn adrannau neu benodau byrion, ac y mae llythyren gyntaf pob adran ar batrwm arbennig a chyn daled â phum llinell o'r teip (22mm), a'r llythrennau amlwg hyn yn goch ar y tudalen Cymraeg ac yn las ar y tudalen Saesneg. Clawr ystwyth lliw hufen oedd iddo. Cadwyd at y fformat hwn yn y pum cyfrol nesaf, ac yna pan ddaeth y rhyfel bu raid hepgor y lliw yn y priflythrennau a bodloni ar ddu.

Y bwriad oedd i bob llyfr fod yn ddefnyddiol ar gyfer Gŵyl Dewi trwy ddathlu rhywun neu rywbeth hanesyddol ynglŷn â'r flwyddyn pan gyhoeddid y llyfr. Dathlu dau ganmlwyddiant cychwyn yr ysgolion cylchynol ym 1731 oedd pwrpas Gruffydd Jones Llanddowror gan R.T. Jenkins, y llyfr a gyhoeddwyd yn 1930 gydag eglurhad yn y rhagair, "Gan fod amryw Gymdeithasau ac awdurdodau cyhoeddus eraill eisoes wedi cychwyn ar y dathlu, teimlwyd mai gor-fanylder, efallai, fyddai i'r Brifysgol aros am flwyddyn nes byddai pawb arall wedi gorffen."

***

DATHLU rhyw amcangyfri o flwyddyn geni Dafydd ap Gwilym oedd mewn golwg yn 1935, geni Daniel Owen yn 1936, a thair canrif a hanner y Beibl Cymraeg yn 1938. Ond yn ddiweddarach, yn achlysurol yn unig y cysylltid y flwyddyn â digwyddiad hanesyddol, megis wyth ganmlwyddiant geni Gerallt Gymro yn 1947, dau canmlwyddiant geni Thomas Charles yn 1955, canmlwyddiant sefydlu Gwladfa Patagonia yn 1965, pedwar canmlwyddiant cyfieithu'r Testament Newydd yn 1967, a hanner canmlwyddiant yr Urdd yn 1972.

Dylid sylwi fod un llyfr wedi ei gyhoeddi yn 1948 bron yn union yr un fath ei wedd allanol i llyfrau'r gyfres ond heb fod yn rhan ohoni, sef Thomas Johnes o'r Hafod gan Dafydd Jenkins, i ddathlu dau ganmlwyddiant geni Johnes. Cymraeg yn unig yw'r iaith.

Yn ystod y rhyfel bu bwlch yn y gyfres, ond cyhoeddwyd pedwar o lyfrau o natur wahanol, sef Hwnt ac Yma, detholiad o farddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg; They look at Wales, casgliad o ddarnau am Gymru yn Saesneg; Y Flwyddyn yng Nghymru, darnau'n disgrifio'r gwahanol dymhorau; Geirfa Natur, rhestr o enwau creaduriaid a phlanhigion.

Yn 1972 newidiwyd diwyg y llyfrau, gan roi iddynt blyg llai o ychydig a chloriau lliw yn amrywio o gyfrol i gyfrol yn lle'r lliw hufen a fu'n rheol er y cychwyn yn 1928. Hefyd fe hepgorwyd y priflythrennau mawr ar ddechrau'r adrannau. A chyda llaw, pris y gyfrol gyntaf oedd 1/6, a'r olaf yn £1.50.

Dyma restr o lyfrau'r gyfres: