CADW'R RECORD ~ Dyfed Evans ar y Casglwr Mawr

 

John Davies gyda'i drysorau.

PUR ANAML y bydd John Davies yn gwylio'r teledu. Pan gaiff noson o hamdden, gwrando ar recordiau yw ei ddifyrrwch mawr ef. Pe mynnai, gallai wrando am flynyddoedd heb glywed 'run rhai! Mae gan John Davies gasgliad o bum mil o recordiau - a dewis o chwe gramoffon i'w canu nhw.

Dechreuodd hel yn 1951 pan oedd yn hogyn ysgol yn Leystone, Dwyrain Llundain. Yr oedd iddo athro cerdd brwdfrydig a neilltuai wersi i wrando recordiau a thrafod y cyfanweithiau. Erbyn 1954 yr oedd gan John Davies gasgliad pur ddygn o ganeuon opera a jazz, gan gynnwys ambell record ddigon prin a gwerthfawr.

Ond, o ddiffyg arian, yn bennaf, gwerthodd bron y cwbl ohonynt pan fu'n rhaid iddo fynd i'r Fyddin am ddwy flynedd, ac er iddo ail-ymhel â'r casglu yn 1956, nid aeth ati o ddifrif hyd dair blynedd yn ôl. Dyna hefyd pryd y dechreuodd gasglu recordiau Cymraeg.

Yn ystod haf 1955, pan oedd yn ŵr camera gyda chwmni teledu Thames, y daeth John Davies gyntaf i Gymru. Daeth ar wyliau i Feddgelert. Bu'n ymwelydd cyson wedyn, ac ar un o'i bererindodau yn Llŷn, bedair blynedd ar ddeg yn ôl, y cyfarfu ag Ann o'r Efailnewydd, priodi a chychwyn busnes crochenydd yn y Glyddyn Mawr, Y Ffôr.

***

CAEL ambell hen record gan hwn a'r llall yn y cyffiniau fu cychwyn ei gasgliad o recordiau Cymraeg, a'r peth cyntaf a'i trawodd ynglŷn â hwy oedd darganfod mor eithriadol o boblogaidd oedd rhai caneuon a rhai artistiaid. Pan aeth ati i brynu ambell gasgliad, boed fach, boed fawr, byddai'n siŵr o gael record wyth modfedd Edison Bell o Morlais Morgan yn canu 'Y Bwthyn Bach To Gwellt' a 'Dafydd y Garreg Wen', record a ddaeth oddi ar y blociau tua 1929; neu o David Brazell ar record Columbia yn canu 'Y Berwyn' a 'Can y Cadeirio', a gyhoeddwyd tua 1926. Un arall a ddôi i'r amlwg yn barhaus oedd Madam Telini a'i 'Deio Bach' ar Regal Zonophone yng nghanol y tridegau.

Y record hynaf sydd ganddo yn Gymraeg, fodd bynnag, yw un o Evan Williams, y tenor Americanaidd, a anwyd ac a fagwyd yn Iowa, ac a siaradai Gymraeg yn rhugl. Bu'n canu llawer yn y Metro yn Efrog Newydd a gwnaeth laweroedd o recordiau yn y ddinas honno ac yn Llundain. Record un ochr ohono'n canu 'Mentra Gwen' o'r cyfnod rhwng 1908 a 1910 yw'r un sydd gan John Davies. Bu Evan Williams farw yn 1918.

***

FFEFRYN John Davies ymhlith y cantorion Cymreig, fodd bynnag, yw Leila Megane. Wel, mae'n meddwl y byd o'i llais a'r nerth a'r bywiogrwydd sy'n ei chanu, ac at hynny, 'roedd Ann yn eithaf cybyddus â'r gantores pan ddaeth i fyw i'r Efailnewydd ar ôl ail-briodi â Mr W.J. Hughes.

Y mae gan John Davies ddwy fersiwn o Leila Megane yn canu 'Y Nefoedd' – y naill ar record ddeng modfedd gyda chyfeiliant piano, record acwstig heb ddefnyddio meicroffon, a'r llall yn record ddeuddeng modfedd gyda chyfeiliant organ, a'r gantores y tro hwn yn canu i feicroffon. Cynhyrchwyd y ddwy record tua'r un adeg yn y dau ddegau cynnar ac nid yw'r naill na'r llall yn anodd iawn i'w cael.

Dywed John Davies mai'r record brinnaf o Leila Megane yw'r un lle clywir 'Amour, viens aider,' o Samson a Dalila ar un ochr, a dwy o ganeuon Granville Bantock ar yr ochr arall. Gwnaed hon yn 1923. Mae gan John Davies gopi mewn cyflwr rhagorol ac sy'n werth rhyw wyth neu ddeg punt.

***

O'R CYCHWYN cyntaf, ar gasglu recordiau lleisiol y bu pwyslais John Davies. Mae'r record hynaf un sydd ganddo bron iawn yn bedwar ugain oed – o'r dyddiau cyn bod labeli papur, a'r manylion wedi eu crafu i'r cŵyr. Un o recordiau saith modfedd Emile Berliner, y dyn cyntaf erioed i wneud record fflat, yw hon. Arni clywir cantorion Theatr y Lyric, Llundain, yn cyflwyno 'Tell Me Pretty Maiden', i gyfeiliant y cyfansoddwr, Stuart. Fe'i recordiwyd ar 3 Hydref 1900.

Oherwydd ei hoed a'i hansawdd a'r gofyn am ei diogelu, nid a phin y bydd John Davies yn chwarae'r record hon ond â phigyn draenen a ddarparwyd yn arbennig i'r pwrpas. Y mae ganddo beiriant bach hefyd i roi min ar y drain gan eu bod yn bethau pur gostus i'w prynu.

***

YM MHLE y mae cael gafael ar hen recordiau fel hyn meddech chi? Wel, mi ellwch daro ar ambell un ar ddamwain weithiau, ond, gan amlaf, eu prynu gan fasnachwyr a wna'r casglwyr, a ffeirio ymysg ei gilydd. Y mae John Davies yn aelod o Gymdeithas Ffonograff a Gramaffon Dinas Llundain a sefydlwyd yn 1919, ac mae i honno ei changhennau mewn mannau fel Manceinion a Henffordd ac amryw byd o leoedd yn yr Alban.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf daeth John Davies i wybod am amryw o gasglwyr ledled Cymru a bu'n ymhel â'r syniad o geisio sefydlu cangen yma hefyd. Un o'i ffrindiau, gŵr a symbylodd lawer arno gyda'i gasgliad Cymraeg, yw William Owen Jones o Benllech, Tudweiliog, y bu ei hanes eisoes yn Y Casglwr. Daw William i'r Glyddyn Mawr yn rheolaidd bob tair wythnos i wrando recordiau - er bod ganddo tua saith mil ei hunan!

Un llais y gwrandewir arno, wrth gwrs yw – Caruso. Mae gan John Davies 62 o recordiau ohono ef, gan gynnwys yr un enwog honno lle mae'r tenor o'r tenoriaid yn canu bâs. Mewn opera yn Efrog Newydd rhyw dro fe aeth y baswr yn sâl ar ganol y perfformiad. Dywedir iddo lwyddo i feimio ei ran, ac i Caruso gytuno i ganu yn ei le tu ôl i'r llenni.

Dim ond un recordiad a wnaed – a bu chwilio taer amdano am dros ddeng mlynedd ar hugain. Daethpwyd o hyd iddo yng Nghaliffornia o'r diwedd. Prynodd H.M.V. yr hawlfraint a gwnaed copïau o'r gân 'Vecchia Zimmara' (Cân y Gôt) o LA Boheme, Puccini, yn 1950, gan gyfyngu'r nifer ar gyfer casglwyr. Mae'n record brin iawn.

Wyddwn i ddim nes ymweld â'r Glyddyn Mawr fod Adelina Patti yn 65 oed pan wnaeth ei record gyntaf a bod gan gwmni 'Gramaphone' lebal arbennig ar ei chyfer hi yn dwyn yr enw Recordiau Patti. Neilltuwyd iddi hefyd ei lliw ei hun, lebal pinc, fel y neilltuwyd lliw lelog i Nellie Melba. Y mae gan John Davies record o Madam Patti wedi ei gwneud yng Nghraig y Nos yn Rhagfyr 1905. Y gân yw 'Last Rose of Summer'.

***

Y MAE cyflymder troelli yr hen recordiau hyn yn amrywio cryn dipyn – o 70 i 82 cylchdro y funud. Amrywia'r cyflymdra hyd yn oed o un ochr i'r llall ar yr un record. Dibynnai llawer ar y tywydd ddiwrnod y recordio. Byddai tyndra spring y troellwr yn wahanol, er enghraifft, ar ddiwrnod poeth eiriasboeth yn yr haf i'r hyn fyddai yn nhrymder gaeaf.

Ar hen gramaffonau gellir amrywio'r cyflymdra fel bo'r galw ond rhaid dibynnu ar y glust i ddewis y cyflymdra priodol. Mae gan John Davies wyth hen gramaffon i gyd - chwech yn gweithio a'r ddwy arall ar hanner eu hatgyweirio.

Y fwyaf, a'r fwyaf mawreddog yw model H.M.V. cabinet yn dyddio i 1925. Addaswyd hon i weithio efo trydan ond mae'r hen rannau gwreiddiol ar gael i gyd hefyd ac mewn cyflwr perffaith.

 

Y gramaffon fwyaf diddorol o'r wyth yn y Glyddyn Mawr, fodd bynnag, yw'r Mikiphone, 'ffonograff boced' a luniwyd yn gywrain ryfeddol yn yr Yswisdir yn niwedd y dau ddegau. Yn gaeëdig, nid yw hon ond pum modfedd o drawsfesur a dwy fodfedd o uchder, ond gellir ei hagor i ganu record o unrhyw faint.