Bu farw Dafydd Lloyd Hughes ein Llywydd Anrhydeddus ar 15fed o Dachwedd 2007.
Ceir isod deyrnged iddo gan ei gyfaill yr Athro Hywel Teifi Edwards.

Dafydd Glyn Lloyd Hughes (1921-2007)


O fewn ychydig wythnosau i'w gilydd, fe gollwyd i'r Gymru Gymraeg dri chymwynaswr tra gwerthfawr. Roedd i ddau ohonynt - Grav a Wil Sam - tri cenedlaethol yn rhinwedd natur eu cyfraniad. Nid 'cymeriad' o gyfrannwr o'r math hwnnw oedd Dafydd, ond yr oedd yng ngrym ei ymroddiad, ei benderfyniad a'i allu mawr yn Gymro rhagorol.

Ar ddechrau'r 1970au, ymunodd â'r dosbarth Llenyddiaeth Gymraeg y bûm yn ei gynnal am dros chwarter canrif o 1965 ymlaen yn Llanelli. Ei waith yn rheolwr yr Adran Bensiynau ac Yswiriant Cenedlaethol yn y dref a oedd wedi'i ddwyn i'r cylch, ac roedd wedi ymgartrefu gyda'i briod, Gwenda, ym Mhorth Tywyn. Daeth yn amlwg o'r dechrau ei fod, yng ngeiriau un o fois Llangennech y cafodd gymaint o hwyl yn eu plith, yn ddyn `substantiable'.

Talp o ddiwylliant Penrhyn Llŷn oedd Dafydd, a Phwllheli oedd ei dref enedigol. Teithiodd ymhell ohoni yn ystod gyrfa gwas sifil disglair a gredai gant y cant mewn gosod safonau uchel a'u cynnal yn gyson. Mater o ffaith, nid mater o ddyfalu, yw dweud y byddai wedi llanw swyddi bras petai wedi bodloni byw yn Lloegr.

Fel un a'i cafodd yn gyfaill am lawer blwyddyn, ac a gafodd sawl cyfle i werthfawrogi ei ddeallusrwydd gloyw, nid wyf yn petruso dweud y buasai cael Cymry o'i ansawdd ef i wasanaethu ein Cynulliad, wedi bod yn gryn ennill i achos Cymru. Nid oes amheuaeth am y gamp a oedd o gwmpas Dafydd, y gwas sifil.

Ymhyfrydai yn ei Gymreictod

Yn ein dosbarth yn festri Capel Als ac yn yr Island House lle'r aem wedyn am seiet estynedig, roedd Dafydd wrth ei fodd. Ymhyfrydai yn ei Gymreictod, ac mewn cwmni brith a ffraeth eu llafar. Roedd ganddo gymaint i'w gyfrannu at bob sgwrs. Bu'n gweithio yn Llundain, a llefydd annhebygol fel Blackpool a Leamington, a sawl man arall, ac fe gofiai am gymeriadau, digwyddiadau a sêr y byd chwaraeon, megis tîm Arsenal cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd. Pan ddisgrifiai ddewiniaeth Alex James byddwn yn ei alw yn hen ddiawl lwcus!

Yn ystod un o'r seiadau hynny yn yr Island House, pan oeddem yn darllen Pigau'r Sêr J. G. Williams yn y dosbarth, gofynnais a oedd yn gyfarwydd a bro'r llyfr. Atebodd ei fod, ei fod yn adnabod Jack, yr awdur, hefyd, a dyma benderfynu yn y fan a'r lle mynd am drip 'i'r north'. Tyfodd yn drip blynyddol a barodd am ddwy flynedd ar bymtheg, pan gafodd criw ohonom, pererinion o Borth Tywyn hyd at Gwmllynfell, ein tywys ganddo ar hyd a lled y gogledd gan elwa'n fawr ar ei wybodaeth helaeth. Nid tripiau dibaratoad oeddynt - dyn ymchwil oedd Dafydd.

Byddem yn aros yn y Crown ym Mhwllheli gyda Gwyndaf a Mrs Jones i ddechrau, ac wedyn yng Nghricieth gyda Mrs Stewart Jones. Sôn am fwynhau! I rai o'r bois roedd y gogledd yn 'ddierth', a bu ambell 'Star Trek' o daith - megis honno ar draws gwlad i weld bedd y bardd yn Llanfair Talhaearn. Rwy'n siwr i fi glywed yr hen Dal yn ymbil am gael dod gyda ni wrth i ni adael y fynwent.

Pererindod blynyddol i Ben Llyn

A'r bererindod flynyddol, yn enwedig ar ô1 cael Twm i'n gyrru yn y bys mini, `via' Sarn Mellteyrn a thafarn Dafydd' - y dafarn gydweithredol y bu ganddo gyfran ynddi am sbel - hyd at Aberdaron. Ie, a'r canu mawr wedi diwrnod o'r ymddiwyllio mwyaf hwyliog dan arweiniad 'cicerone' a allai siarad am gynifer o agweddau ar ddiwylliant ei fythol hudol Benrhyn Llyn.

Roedd gormod o'r cwmni ysbrydoledig hwnnw wedi croesi cyn marw Dafydd, a mae'n gwbwl sicr gen i iddo gael croeso brenin pan ddychwelodd i'w plith. Wil wrth yr organ, Ifor Gwyn yn canu mawl y 'Border Bach', Gwynfor yn rhuo dros y 'Berwyn', Dan yn dyrchafu clod 'My brother Sylvest'. Dai Culpitt yn adrodd pennill, Ossie yn sylwebu'n ddrygionus, a Gareth a’i ddwylo colier, yn clapo'n sidêt am fod clapio'n `art'. Ac ymhen dim, roedd `Moliannwn' yn ffrwydro trwy eu gwynfyd, mi fentra i.

Dileu colled yr Eisteddfod

Fe fydd Dafydd i fi, tra byddaf, yn llond ei groen yn heulwen y 'trips i'r north'. A bydd yr un mor gyflawn ynghanol bwrlwm sawl Prifwyl. Y mae'n Prifwyl yn dal i deithio am iddo ef a Harri Gwynn brofi yn 1955 fod modd i dref fechan fel Pwllheli ei chroesawu, a'i chael i dalu ar ei chanfed, ar ôl tair neu bedair blynedd golledus. Harri yn drefnydd/ysgrifennydd, a Dafydd yn drysorydd tra gofalus, ac wele lwyddiant ysgubol. Dylai pob eisteddfodwr gwerth ei halen yfed peint o ddiolch yn flynyddol i'r bartneriaeth a wnaeth y wyrth.

A phan wnaf droi at fy silffoedd llyfrau, wele Dafydd yno hefyd. Mae'r gwerth a rôi ar ei Gymreictod i'w weld mewn llyfrau a chylchgronau sy'n cynnwys ffrwyth ei hoff lafur. Fel gwas sifil yr enillodd ei fara, ond petai amgylchiadau ei fagwraeth wedi caniatau byddai heb os wedi graddio mewn prifysgol. Roedd ganddo anian ac angerdd ysgolhaig, ysgolhaig o hanesydd, a bu cael ei gyflwyno yn Aberystwyth yn haf 2002 am radd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, yn brofiad tra phleserus i mi.

Gallwn sôn am lu o gyfraniadau i Llanw Llŷn, Y Garthen, Y Casglwr ac ati. Bu'n hael ei nawdd i sawl cyhoeddiad. Gallwn sôn am ei erthyglau i gylchgronau academaidd, megis Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yr oedd newydd orffen yr olaf un o'i erthyglau ar fater astrus 'Arolwg 1352 a Threflannau Caeth Eifionydd' ar ei gyfer. Gallwn sôn am ei ysgrifau difyr atgofus ar gyfer Cwm Aman a Merthyr a Thaf yng 'Nghyfres y Cymoedd'.

Ei Gyfraniad i ddiwylliant ei wlad

Digon, fodd bynnag, fydd dweud wrth bwy bynnag sydd am werthfawrogi cyfraniad Dafydd Lloyd Hughes i ddiwylliant ei wlad, i ddarllen ei ddwy gyfrol gampus ar ei dref enedigol, Hanes Tref Pwllheli (1986) a Pwllheli, An Old Welsh Town and its History (1992), ac yna droi at Tir yr Abad, Hanes New Inn a Gwyddgrug yn Shir Gâr (1996).

Tair cyfrol sydd rhyngddynt yn rhifo'r rhan orau o fil o dudalennau, a phob tudalen yn tystio i ddiwydrwydd a gallu gŵr a oedd am gydnabod ei ddyled i'r bobol a'r broydd a'i cynhaliodd yn ystod ei fywyd trwy wneud, gystal ag y gallai, un gymwynas fawr a hwy - adrodd eu stori, crisialu eu cof. Cyflwynodd Hanes Tref Pwllheli 'I Sara, Gwilym, a Now a'u tebyg', a Tir yr Abad i'w briod ffein, Gwenda, gan mai dyna'i gwlad hi, y wlad yr aeth Dafydd i fyw ynddi ar ôl ymddeol yn 1985, a'r wlad yr aeth ohoni ar 13 Tachwedd 2007, fel y gwnaethai Gwenda ar ddechrau'r un flwyddyn. Pe câi tref a phentref yng Nghmru hanesydd lleol hafal i Dafydd i agor eu llygaid i ryfeddod troeon eu taith, fe fyddem yn wlad freintiedig yn wir. Fe fyddem yn sicrach ohonom ni'n hunain.

Byddwn yn mynd i'w weld yng Ngwen-y-wawr bron bob mis ar ôl iddo ymddeol i New Inn. Aem allan i giniawa yn y Ram yng Nghwm-ann, pan oedd hi'n dafarn hyfryta'n bod, a byddai hanes ei feibion, Beuno a Bleddyn, yn cynhesu sgwrs droeon. Ar y ffordd nôl âi'n ganu weithiau, a byddai'i werthfawrogiad o'i hen arwr, Cynan, yn sicr o `Anfon y Nico' ar daith eto fyth.

Mi fentra i fod Dafydd nawr, yn ôl ei haeddiant, wedi cyrraedd y wlad –

Lle ma'r haf yn aros hira,
Lle ma'r awal iach mor ffri,
Lle ma'r môr a'r nefoedd lasa,
Gwlad y galon - dyna hi.

Hywel Teifi Edwards.