Cyfarfod Blynyddol 2007
Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas ym Mhortmeirion, ddydd Sadwrn yr 31ain o Fawrth, 2007.
Yn bresennol
Rheinallt Llwyd (Cadeirydd), Gwyndaf Roberts (Trysorydd), Mel Williams (Golygydd/Swyddog Datblygu), Angharad Jones (Ysgrifennydd)
a nifer dda o aelodau’r Gymdeithas.
1. Croeso’r Cadeirydd
2. Ymddiheuriadau
Derbyniwyd ymddiheuriad gan E. Wyn James.
3. Cofnodion
Derbyniwyd cofnodion Cyfarfod Blynyddol 2006 fel rhai cywir.
4. Materion yn codi o’r cofnodion
Codwyd y mater o ddyddiad y cyfarfod blynyddol – mae mis Mawrth yn fis prysur gyda eisteddfodau’r Urdd. Byddai wedi
bod yn anodd iawn i gael lle ym Mhortmeirion fis Ebrill.
5. Arolwg yr Ysgrifennydd/Cadeirydd o weithgareddau’r Gymdeithas yn ystod 2006/7
Am y tāl aelodaeth o £7.50 ‘roedd yr aelodau yn derbyn tri rhifyn o’r Casglwr.
Cynhaliwyd dwy Ffair Lyfrau yn 2006 – un yn Aberystwyth a’r llall yn y Bala.
Cafwyd darlith gan Hywel Teifi Edwards ar Cadwaladr Jones yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cafwyd Gwibdaith Lenyddol dan arweiniad J. Elwyn Hughes.
Mae mynegai i rifynnau’r Casglwr yn barod.
Gwnaed Dafydd Lloyd Hughes yn Llywydd Anrhydeddus.
Cytunodd Dr.Goronwy Wynne i draddodi darlith flynyddol 2007 a’r Dr. R. Elwyn Hughes i draddodi darlith flynyddol 2008.
Nodwyd gynlluniau ffeiriau 2007:
Caerfyrddin – 28ain Ebrill
Y Bala – 22ain Medi
6. Adroddiad y Trysorydd(gweler y cyfrifon yn gysylltiedig)
Esboniwyd y manteision o newid maint y Casglwr.
Nodwyd fod tua £6007.00 yn y cyfri ar y funud a bod yr aelodaeth o gwmpas 900. Gresyn na chawsom nawdd gan y Cyngor Llyfrau.
Awgrymodd y Pwyllgor Gwaith ein bod o Ionawr 2008 yn codi y tāl aelodaeth i £10.00 – cadarnhawyd hyn. Bydd ffurflen newydd yn cael ei roi i mewn yn rhifyn Gorffennaf o’r Casglwr. Atgoffwyd ni am y rhodd gymorth.
7. Adroddiad y Golygydd/Swyddog Datblygu
(adroddiad yn gysylltiedig)
Mae cludiant y Casglwr ‘rwan yn 55c o’i gymharu ā 58c cynt oherwydd y newid maint. ‘Ryda ni yn cysodi ein hunain ac wedi bod yn argraffu yng Ngwasg Gwynedd ond mae gwasg y Trallwng £500 yn rhatach.
Diolchwyd i Evan Dobson sydd wedi bod o gymorth mawr i gyflwyno pethau i’r wasg.
Llongyfarchwyd y Golygydd ar y fformat newydd.
Gofynwyd am awgrymiadau ar gyfer gwibdeithiau.
8. Ethol Swyddogion ac aelodau’r Pwyllgor Gwaith am
2007/8
'Roedd cyfnod Mel Williams, Gwyndaf Roberts, Rheinallt Llwyd a Rhian Williams ar y pwyllgor wedi dod i ben.
Argymhellodd y pwyllgor eu bod yn aros a cadarnhawyd hyn.
‘Roedd E. Wyn James yn dymuno ymddiswyddo fel Cadeirydd. Cadarnhawyd Rheinallt Llwyd fel cadeirydd, J. Elwyn Hughes fel Is Gadeirydd, Mel Williams yn aros fel Golygydd/Swyddog Datblygu, Gwyndaf Roberts yn aros fel Trysorydd, Angharad Jones yn aros fel Ysgrifennydd. Nodwyd bod y Gymdeithas yn ddiolchgar iawn i Dr. E. Wyn James am ei wasanaeth fel Cadeirydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
9. Penodi archwilwyr
Cytunwyd i gadw Peter A. Jones fel archwiliwr.
10. Unrhyw fater arall
Diolchwyd i’r aelodau am eu presenoldeb. Diolchwyd i holl aelodau’r pwyllgor gwaith ac yn arbennig i’r
swyddogion.