120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106 | 105 | 104 | 103
Newyddion Rhifyn yr Haf 2012
Y Diwrnod Agored yn Llanuwchllyn
Cafwyd diwrnod bythgofiadwy yng Ngwesty'r Eryrod, Llanuwchllyn eleni. Roedd y tywydd yn braf a chafodd pawb eu bodloni.
Sicrhawyd llwyddiant y diwrnod gan dri siaradwr. Hoffwn ddiolch i'r Athro Sioned Davies, Y Parch. Emlyn Richards a'r Bonwr
Rhys Mwyn am eu cyfraniadau hynod ddifyr ac amrywiol. Cadeiriwyd y cyfan yn ddeheuig gan Y Fon. Buddug Medi, Llywydd
y Gymdeithas.
Cafwyd hefyd, gyfle i brynu a phori drwy hen gyfrolau.
Y Cyfarfod Blynyddol
Ar ddiwedd y Cyfarfod Cyhoeddus cafwyd seremoni i anrhegu'r Cyn-olygydd am ei waith dros yn un mlynedd ar bymtheg ddiwethaf. Cyflwynwyd iddo siec o £400.
Ffeiriau
Cynhaliwyd dwy Ffair Wanwyn gan y Gymdeithas , un yn Y Morlan, Aberystwyth a'r llall yn Neuadd Goffa Bodhyfryd,
Wrecsam. Bu'r ddwy yn llwyddiannus iawn a diolch i Gwyn Tudur am fod yn gyfrifol am drefnu'r Ffair yn Aberystwyth, ac i
Elwyn Williams, yntau, yn Wrecsam, am yr holl waith trefnu.
Gobeithir cynnal Ffair eto eleni yn Ysgol David Hughes, Y Borth, ar 22 Medi. Hoffwn ddiolch i'r Dr. Bruce Griffiths ac
Ann Corkett am ysgwyddo'r baich o'i threfnu
Gwibdeithiau
Cafwyd diwrnod i'w gofio yng Nglyn Ceiriog, a diolch i Miss Einwen Jones am ei sgwrs hynod ddifyr. Gorffenwyd y diwrnod
gyda lluniaeth ysgafn yng Ngwesty'r Glyn Valley.
Bydd yr ail Wibdaith yn ymweld â Chanolfan Clynnog Fawr ar 6 Hydref eleni pryd y cawn sgwrs gan Geraint Jones.
Paratoir lluniaeth yng Ngwesty'r Beuno. Diolch i Helga Martin am ymgymryd â'r trefniadau.
Y Drysoryddiaeth
Diolch i Helga Martin am gymryd drosodd y Drysoryddiaeth yn sgil ymddeoliad Gwyndaf Roberts. Mae hi wedi bod wrthi'n ddiwyd tu hwnt yn sicrhau'r fantolen am eleni. Diolch am ei gwaith.
Golygydd
Dyma ail rifyn y Dr Ieuan Parri fel golygydd. Hoffwn ddiolch iddo am ymgymryd â'r swydd, ac i Evan Dobson am gysodi'r holl waith.
Yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg
Mae'r paratoadau ar y gweill i gael stondin ac i ddewis siaradwr Y Gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Rydym yn ffodus i gael Dr. Robin Gwyndaf i draddodi'r ddarlith flynyddol. Diolch iddo am ei barodrwydd.
Y Raffl Flynyddol
Bydd yna raffl flynyddol, eto eleni, Fel y llynedd bydd tri llyfr yn cael eu cynnws ym mhob Casglwr. Mi fyddwn yn falch iawn pe byddech yn gallu eu gwerthu gan fod yr elw yn mynd i dalu am y stondin yn y Brifwyl.
Rhoddion
Diolch i chi am eich rhoddion hael. Mae eich cyfraniadau yn gymorth mawr i'r Gymdeithas.
Y We
Cofiwch am ein Safle We. Cymerwch gyfle i droi iddi. Diolch i Denis Roberts, Swyddog y We ac i Keith Parry am eu dyfalbarhad.