120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106 | 105 | 104 | 103

Newyddion Rhifyn Y Gwanwyn 2012

Y Diwrnod Agored yn Llanuwchllyn

Eleni eto cynhelir ein Diwrnod Agored yn Nhafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn ar 21 Ebrill. Gobeithir cael stondinau llyfrau i'ch temptio. Mae yna arlwy wedi cael ei threfnu ar eich cyfer y tro yma, eto, a chefnogir yr achlysur gan Lenyddiaeth Cymru. Cofiwch ddychwelyd y ffurflen a'ch dewis o fwyd yn brydlon i'r ysgrifennydd os ydych am sicrhau lle ar y diwrnod. Dim ond 50 all y Gwesty ei dderbyn. Felly, cyntaf i'r felin caiff falu.

Y Cyfarfod Blynyddol

Mae croeso i bob aelod fynychu'r cyfarfod am ddim. Ond bydd yn rhaid talu os am fod yn rhan o'r diwrnod i gyd. Rhydd y cyfarfod gyfle i unigolyn ddatgan ei safbwynt ac i gynnig newidiadau.

Ffeiriau

Rydym yn ffodus iawn i allu cynnal dwy ffair Y Gymdeithas cyn yr haf eleni. Cynhelir y gyntaf yn Y Morlan. Aberystwyth ar 8 Mai, a'r llall wythnos yn ddiweddarach ar 19 Mai yn Neuadd Goffa Bodhyfryd, Ffordd Gaer, Wrecsam. Dyma'r tro cyntaf i ni fod a Ffair yn Wrecsam. Gobeithir. hefyd, gynnal Ffair y Borth fis Medi nesaf. Ond ceir mwy o fanylion amdani yn y rhifyn nesaf. Diolch i Elwyn Williams, Gwyn Tudur, Bruce Griffiths ac Ann Corkett am eu parodrwydd i ysgwyddo'r holl drefniadau.

Gwibdeithiau

Dim ond un wibdaith sydd wedi cael ei threfnu hyd yma. Rydym yn ddiolchgar iawn i Nia Rhosier am awgrymu ymweliad a Glyn Ceiriog. Diolch i Miss Einwen Jones am ei pharodrwydd i arwain y daith. Paratoir lluniaeth ysgafn yng Ngwesty Glyn Valley. Os oes gennych unrhyw syniad lle y gellir ymweld ag o, gadewch imi wybod. Rydym yn awyddus i gael gwibdeithiau i wahanol ardaloedd yng Nghymru y flwyddyn nesaf.

Y Drysoryddiaeth

Diolch i Helga Martin am gymryd drosodd y Drysoryddiaeth yn sgil ymddeoliad Gwyndaf Roberts. Mae hi wedi bod wrthi'n ddiwyd tu hwnt yn sicrhau'r fantolen am eleni. Diolch am ei gwaith. Hoffai'r Gymdeithas ddiolch i Gwyndaf Roberts am ei waith dros y blynyddoedd.

Golygydd

Dyma rifyn cyntaf y Dr leuan Parri fel golygydd. Cawn wybodaeth helaethach am ei gefndir ar dudalen 11.

Y Gadeiryddiaeth

Diolch i Buddug Medi am ei pharodrwydd i ymgymryd a'r Gadeiryddiaeth.

Yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg

Mae'r paratoadau ar y gweill i gael stondin ac i ddewis siaradwr Y Gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Bydd yna raffl flynyddol, eto eleni, gobeithio.

Rhoddion

Diolch ichi am eich rhoddion hael. Mae eich cyfraniadau yn gymorth mawr i'r Gymdeithas.

Cyngor Llyfrau Cymru

Buom yn llwyddiannus eto'r tro hwn i ennill nawdd o £1500 y flwyddyn am dair blynedd, oddi wrth Cyngor Llyfrau Cymru.

Y We

Cofiwch am ein Safle We. Cymerwch gyfle i droi iddi. Diolch i Denis Roberts, Swyddog y We ac i Keith Parry am eu dyfalbarhad.