120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106 | 105 | 104 | 103

Golygyddol Rhifyn Y Nadolig 2011

Y Brifwyl yn Wrecsam

Bu'r Genedlaethol yn llwyddiant mawr i'r Gymdeithas. Cafwyd cyfle i gyfarfod ag aelodau, a llwyddwyd i ddenu rhai newydd i'r gorlan. Buom yn ffodus iawn i gael Gareth Vaughan Williams i draddodi darlith y Gymdeithas ar 'Morgan Llwyd sy' yma'.

Diolch, hefyd, i Helga Martin am gadeirio mor ddeheuig. Cafwyd cynulleidfa deilwng. Buom yn ffodus i Helga roi oi hamser prin yn ystod yr wythnos i warchod y stondin, i demtio tanysgrifwyr newydd ac i annog yr eisteddfodwyr i brynu tocynnau raffl.

Diolch, hefyd, i Bruce Griffiths, Ann Corkett, Nia Rhosier, ac Elwyn Williams am eu hamser yn gofalu am y stondin.

Y Raffl Flynyddol

Mae'r Raffl wedi bod yn llwyddiannus iawn eleni eto, ac y mae'n fodd i ni dalu am babell ar y maes. Mae'n codi ein calon, hefyd, i gael cynifer ohonoch yn anfon rhoddion; mae pob ceiniog yn dderbyniol. Cewch enwau'r enillwyr ar dudalen 20.

Ac yn sgil y rhai sydd wedi arwyddo'r Rhodd Gymorth cawn elw pellach. Tybed a wnaiff pawb sy'n talu treth ystyried llofnodi'r ffurflen? Does dim manylion yn cael eu hanfon at yr awdurdodau, felly mae yna elw yn dod i'r Gymdeithas yn flynyddol.

Ffair Y Borth

Bu Ffair lwyddiannus iawn eto yn y Borth ym mis Medi, a mawr ddiolch i Ann Corkett a Bruce Griffiths am ei threfnu. Ceir mwy o hanes ar y tudalen ôl. Bydd Ffair yn Wrecsam ym mis Mai y flwyddyn nesaf. Diolch i Elwyn Williams am wthio'r cwch i'r dŵr.

Diwrnod Agored

Oherwydd llwyddiant ysgubol y llynedd rydym yn ymweld รข Llanuwchlyn eto eleni. Mae gennym arlwy ar eich cyfer ac yr ydym wedi llwyddo i gadw'r pris yn sefydlog.

Gwibdeithiau

Bu trydedd gwibdaith dan y teitl 'Taith Glyndwr' a gynhaliwyd ar 10 Medi, yn hynod lwyddiannus. Mynychodd 25 y daith. Ceir y manylion ar dudalen 28. Diolch i Emrys Wynne ac Alan Baines am ymgymryd a'r gwaith o'i threfnu.

Os oes gennych unrhyw syniad lle y gellir ymweld ag o, gadewch imi wybod. Rydym yn awyddus i gael gwibdeithiau i wahanol ardaloedd yng Nghymru y flwyddyn nesaf.

Y Drysoryddiaeth

Gydag ymddeoliad Gwyndaf Roberts fel Trysorydd, rydym wedi bod yn ffodus i gael Helga Martin i ymgymryd â'r awenau ariannol. Mai hi wedi ymgymryd â'r gwaith yn ddeheuig iawn. Diolch iddi hefyd am ysgwyddor Gadeiryddiaeth am sawl blwyddyn.

Hoffwn ddiolch i Gwyndaf Roberts am ei waith dros y blynyddoedd.

Is-olygyddiaeth

Eto rydym wedi gallu denu y Dr Ieuan Parri i ymgymryd â'r arswydus swydd. Gobeithia symud i gadair y golygydd y flwyddyn nesaf.

Y Gadeiryddiaeth

Etholir Buddug Medi yn Gadeirydd y Gymdeithas yn lle Helga Martin.

Y We

Cofiwch am ein Safle We. Cymerwch gyfle i droi iddi. Diolch i Dennis Roberts, Swyddog y We, ac i Keith Parry, am eu dyfalbarhad.

Trowch i www.casglwr.org

golygydd